cyngor ei dad yng nghyfraith. Arweiniai'r sgwrs i gyfeiriad yr awgrym y daethai ef i'w wneud ac yna, pan ddeuai'r awgrym hwnnw o enau Annas, goleuai'i lygaid gan edmygedd a diolch. A theimlai'r hen Annas yn glamp o ddyn, "yn ardderchog o gyngor a gwybodaeth."
Ni hoffai Joseff yr Archoffeiriad hwn. Yr oedd yn ŵr tal ac urddasol yr olwg ac ni cheid neb mwy cwrtais a boneddigaidd yn yr holl wlad. Cerddai o amgylch yr ystafell yn awr wedi'i wisgo yn ei harddwch offeiriadol, ac ni allai neb beidio ag edmygu'i feistrolaeth lwyr arno'i hun. Yr oedd yn actor gwych; yn wir, ni wyddai'i gyfeillion agosaf—ei gydnabod a'i gynffonwyr, yn hytrach, oherwydd nid oedd gan ei uchelgais le i gyfeillion—pa bryd yr oedd ei wyneb yn fiswrn neu beidio. Llygaid mawr a ymddangosai'n freuddwydiol; gwên ddidwyll, garedig; llais tawel, mwyn—wrth y pethau hynny yr hoffai Caiaffas i chwi ei farnu. A llwyddai'n hynod o dda. Hyd yn oed wedi i chwi wybod mai gŵr caled, uchelgeisiol, cyfrwys, oedd ef, teimlech yn ansicr o hynny dan gyfaredd ei wên gyfeillgar. Efallai, meddech wrthych eich hun, i chwi wneud cam â'r dyn a ffurfio barn fyrbwyll amdano; efallai ei fod mor ddiniwed â'i wên, mor wylaidd â'i lais. Chwi, meddai'r wên, oedd ei gyfaill pennaf; nid oedd neb tebyg i chwi. Ac aech ymaith bron yn credu hynny. Bron.
"Yr oeddwn ar gychwyn i'r Deml, gyfeillion," meddai yn awr, "ac wedi cyrraedd yno bwriadwn ymgynghori â rhai ohonoch chwi'r Cynghorwyr mwyaf blaenllaw.'
Teimlai'r tri'n falch o gael eu galw'n "flaenllaw." Ymsythodd Joseff ar ei sedd; gwenodd Esras; gwnaeth Isaac sŵn boddhaus yn ei wddf.
"Gwir a ddywedwch," aeth Caiaffas ymlaen. "Y mae'n hen bryd inni atal y Nasaread haerllug hwn. Edwyn f' Arglwydd Annas un a all ein cynorthwyo i'w ddal. Gyr negesydd at y dyn hwnnw ar unwaith. Caiff ateb yfory. A gawn ni gyfarfod drennydd, yn bwyllgor bach o bedwar yn y Deml?"
"O'r gorau, f'Arglwydd Caiaffas," meddai'r tri.
"Campus. Beth pe cyfarfyddem yn yr ystafell bwyllgor yn gynnar yn y prynhawn? Ar . . . ar y seithfed awr? A fydd hynny'n gyfleus i chwi?"
"Yn berffaith gyfleus, f'Arglwydd," atebodd Esras ac Isaac yn wasaidd. Nodiodd Joseff, gan gymryd arno fod yn ddidaro.