dieithryn ymaith, yn sicr mai siop Dan y Gwehydd oedd cyrchfan rhai o glebrwyr huotlaf Jerwsalem.
Cyn gynted ag y troai'r dieithryn ei gefn, ailgychwynnai gwŷdd Dan neu Ben-Ami, a fu'n gweini arno, ac âi'r siarad ymlaen drwy'r sŵn i gyd. Ond nid yr un siarad. Ciliai pob gwên a phob chwerthin ac ymlusgai'r hen Lamech yn wylaidd yn ôl at ei beiriant cribo. Anghofiai'r cwmni hel straeon neu gwyno am y tywydd. Yn siop Dan y Gwehydd y cyfarfyddai rhai o wŷr blaenaf Plaid Ryddid.
Y gwŷr blaenaf a doethaf. I'r rhai gwyllt a phenboeth yr oedd Dan yn rhy bwyllog, a beient ef am aros ei gyfle yn lle taro ar unwaith. Hoffent hwy gael arweinydd mwy mentrus a rhyfelgar—fel y gwylliad Tera, a gasglasai dyrfa o wŷr o'i amgylch yng nghilfachau'r bryniau. Ond gwyddai dynion callaf y Blaid nad oedd neb sicrach ei gamau yn yr holl wlad na Dan y Gwehydd.
Wedi iddo fynd i mewn a chyfarch ei gyfaill, pwysodd Beniwda yn erbyn y mur yn ymyl Dan, gan gymryd arno wylio'r patrwm yn tyfu yn y gwŷdd. Ymddangosai'r gwehydd yn ŵr cadarn a dwys, araf a myfyriol ei ffordd, braidd yn rhy dew ac yn rhy lydan i fod yn un o arweinwyr y Selotiaid o bawb. Yn dawel a phwyllog hefyd y siaradai, â rhyw nodyn lleddf a hiraethus yn ei lais. Tyngai'r dieithryn mai bardd a breuddwydiwr oedd Dan a bod llawer salm yn ogystal â brethyn yn cael eu gweu ar y gwŷdd o'i flaen. Ond tu ôl i'r llais a'r llygaid tawel yr oedd cyffro rhyw eiddgarwch mawr. Bu adeg pan edrychid arno fel un o wŷr mwyaf beiddgar Plaid Ryddid, ond erbyn hyn daeth i gredu mai'n araf, o awr i awr ac o ddydd i ddydd, yr achubid enaid y genedl.
"Lol i gyd," meddai'r ifainc—ac yn arbennig ei fab Ben-Ami, penboethyn mwyaf y Blaid—ond er hynny, gwrandawai pawb yn astud a gwylaidd pan lefarai Dan. Ychydig a ddywedai, gan adael i'r siarad a'r dadlau lifo heibio iddo fel un â'i feddwl ymhell; ond wedi i'r huodledd ddechrau diffygio, codai'i olwg o'r gwŷdd a thynnu bysedd drwy'i farf. Tawai pob un, gan wybod y deuai geiriau doethineb o enau Dan.
Ei fab Ben-Ami a oedd wrthi yn awr yn gyffrous fel arfer. Ef oedd un o gyfeillion pennaf Beniwda, a thrwyddo y daeth mab y Sadwcead cyfoethog yn aelod o'r Blaid ac yn ymwelydd