V
Bore'r trydydd dydd yr wythnos. Ar y Rhodfa uchel lydan is Gyntedd y Gwragedd, buan y casglodd tyrfa i wrando ar y Nasaread. Wrth ei ymyl yr oedd wynebau gelyniaethus amryw o Ysgrifenyddion a Phariseaid a henuriaid; tu ôl iddynt, torf o bererinion astud, yn gwenu ac yn pwnio'i gilydd bob tro y dywedai rywbeth a wnâi i wŷr y Deml wingo; tu ôl iddynt hwythau, Ysgrifenyddion a Phariseaid eto, yn ceisio edrych yn ysgornllyd o ddifater ond, er hynny, yn pwyso ymlaen i glywed pob gair ac yn ddig wrth sŵn y bobl pan gollent rai geiriau.
Ymwthiodd Beniwda ymlaen. Gwelai fod Dan yn sefyll gyda nifer o Phariseaid ar y dde i'r siaradwr, a chyn bo hir canfu fod Amos a Saffan ymhlith y dorf. Ni nodiodd ar un ohonynt prin yr adwaenent ei gilydd tu allan i siop y gwehydd yn Heol y Farchnad.
Yr oedd y Nasaread hwn yn ifanc iawn, meddai wrtho'i hun. Ac yn gryf o gorff. Saer, onid e? Hoffai Beniwda'i weld wrth ei waith, a'r breichiau cryfion yn llunio trawstiau rhyw dŷ neu ysgubor neu'n naddu aradr i ryw ffermwr. O'i amgylch yr oedd rhyw ddwsin o'i ddisgyblion, pob un yn ifanc fel ef ac ar eu hwynebau ôl haul a gwynt. Gwŷr syml, didwyll, a'u holl sylw ar eu harweinydd. Sylwodd Beniwda hefyd ar eiddgarwch y bobl; yr oeddynt, yn amlwg, yn hanner-addoli'r dyn. Efallai fod Dan yn ei le, wedi'r cwbl. A hwn yn arwain y pererinion a Thera ar flaen ei filwyr, beth fyddai tri neu bedwar cant o Rufeinwyr?
Ond ai rhyddhau'r genedl oedd ei nod? Gwrandawodd yntau'n eiddgar, gan daflu ambell olwg ar wyneb Dan a cheisio darllen meddyliau'r gwehydd.
"Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab," meddai'r Nasaread. "Ac efe a ddaeth at y cyntaf ac a ddywedodd, Fy mab, dos, gweithia heddiw yn fy ngwinllan.' Ac yntau a atebodd, Nid af.' Ond wedi hynny efe a edifarhaodd ac a aeth.