yn nghanol y llinell, ag sydd i'r sain olaf ond un yn y llinell, sef yn y cymmal blaenaf o'r gair afon.
I. A ydyw yn angenrheidiol cael y sain flaenaf, sef y sain a lusgir o ganol y llinell yn unsill? Y mae Trefniant Gwilym Canoldref yn dweyd ei bod bob amser yn unsillafog.
A. Na, nid yw hyny yn anhebgorol angenrheidiol. Gellir cymmeryd sain olaf gair lluossill i wneyd y sain lusgol, os mynir; er fod yn rhaid addef fod sain unigol yn bertach, ac yn taro yn fwy peraidd ar y clust. Buasai y llinell yr un mor gynghaneddol fel hyn:
Minau groesaf yr afon,
Am fod y sain af yn niwedd y gair groesaf, yn unsain â'r sain af yn afon.
I. Yr wyf yn credu fy mod wedi ei gweled bellach, ac y mae genyf linell yn cynnwys y Lusg Lefn os nad wyf yn camsynied, a dyma hi:
Mae tonau'r môr yn gorphwys.
A. Yr wyt wedi cynnyg yn lled dda, ond wedi methu y tro hwn, am nad oes ph yn canlyn yr r yn y gair môr, i ateb y ph sydd yn y gair gorphwys. Buasai yn iawn fel hyn:
Mae'n rhaid i'r corph gael gorphwys,
Am fod y sain orph yn y gair corph, yn ateb y sain orph yn y gair gorphwys.
I. Wel yr oeddwn i yn credu fy mod wedi dechreu deall y Lusg; ond yn awr yr wyf mewn cymmaint o ddyryswch ag erioed. Yn fy llinell i, y mae y gair môr yn odli â'r sain gor, sef y sill olaf ond un yn y llinell, oblegyd gor—phwys yw y rhaniad priodol, ac nid gorph—wys; ac felly yn ol geiriad y rheol, y mae fy llinell yn gywir. Hefyd, y mae amryw linellau i'w cael yn ngweithiau yr hen feirdd yn hollol yr un fath, sef y sain a lusgir yn odli â'r sill nesaf i'r brif—odl. Dyma linellau o'r natur hyny o waith Dafydd ab Gwilym, Tywysog beirdd Cymru:—
"Rhiain am gwnaeth yn gaethwlad."
"Ys gwae fy wyneb hebddi."
"Gwawr ddyhuddiant y Cantref."
Mae y llinellau hyn yr un fath â'm llinell inau, a'r gair llusg yn odli â'r sill nesaf i'r brifodl, er fod cydsain yn dechreu y sill olaf. Er enghraifft, dyna y llinell,
"Ys gwae fy wyneb hebddi."
Y mae yr eb ar ddiwedd y gair gwyneb, yn odli â'r sill flaenaf yn y gair hebddi; a'r dd sydd yn dechreu y sill olaf heb un yn ei