Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cofiadur rhagorol, Mr. Bleddyn Llwyd, Gyrddinan, Dolyddelen. Yr wyf yn cofio fy mod mewn Cyfarfod Misol yn Nhrawsfynydd, cyn rhanu dau ben y Sir, ac yr oedd Richard. Jones yn eistedd wrth ryw fwrdd yn y sêt fawr, ac yn codi i fyny yn awr a phryd arall i wneuthur sylwadau byrion." "Dyna un peth," ychwanegai, "wyf yn gofio Richard Jones. yn ddweyd yn y Cyfarfod Misol hwnw: y dylai pregethwyr beidio grwgnach o herwydd yr hyn oeddynt yn ei gael am bregethu; nid oedd ganddynt le i rwgnach, yr oedd wedi gwella llawer yn y peth hwn rhagor y bu. Fe fum i,' ebai, 'yn dyfod o'r Bala i Drawsfynydd yma heb gael digon am fy ngwasanaeth am y Sabboth i gadw y merlyn hyd y Sabboth dilynol.'" Ac yr oedd y sylw hwn am wellhad wedi cymeryd lle yn y gydnabyddiaeth Sabbothol, yn cael ei wneuthur fwy nag ugain mlynedd o amser cyn i ddyddiau yr hen oruchwyliaeth fyned heibio.

Yn y Cyfarfod Misol hwnw yn Nhrawsfynydd rhoddai John Griffith, Capel Curig, blaenor adnabyddus a dylanwadol y tymor hwn, ac un a gymerai ran flaenllaw yn ngwaith y Cyfarfod Misol, gynghorion i bawb, yn bregethwyr a blaenoriaid, i fod yn ffyddlon i ddilyn y Cyfarfodydd Misol gyda chysondeb, a'r pwysigrwydd o wneuthur hyny. Ar ol iddo eistedd i lawr, cyfododd yr hynod hen bregethwr, Owen William, Towyn, ar ei draed, ac a ddywedodd:-"Ni waeth i rai o honom heb ddyfod iddynt, nid oes neb yn gofyn pa beth ydym dda wedi i ni ddyfod." Ac aeth yn dipyn o ymdderu rhwng yr hen bregethwr o Dowyn a'r blaenor o Gapel Curig. Lewis Jones, y Bala, a gyfododd i gyfryngu rhyngddynt, mewn ysbryd addfwyn a hawddgar, gan ddangos ei bod yn ddyledswydd ar bawb i fynychu y cyfarfodydd, nid yn unig er mwyn rhoddi help i gario y gwaith yn ei flaen, ond hefyd er derbyn lles a bendith bersonol, trwy ddyfod i gyffyrddiad â phethau mawr y Deyrnas.