Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymlaen, nes yr anghofiodd ei benderfyniad i droi yn ol, a pharhaodd y bregeth hyd nes y daethant i Bont yr Eryd, lle yr oedd yr odfa i gael ei chynal.

Yn nghwrs y blynyddoedd daeth amser i'r hen Humphrey Edwards roddi cadw yr ysgol i fyny, oherwydd musgrellni henaint. Bu hyn yn y flwyddyn 1839. Treuliodd weddill ei oes yn Llidiart Annie, ac yn nhy capel Llandynan. Yn ei gofiant a argraffwyd ac a gyhoeddwyd yn llyfryn bychan gan Mr. Hugh Jones, Llangollen, dywedir ddarfod iddo ef "gael y fraint o oroesi pob un o hen ysgolfeistriaid Mr. Charles." Nid ydyw y sylw hwn yn gywir, fel y cawn weled eto, oblegid fe ddarfu i Lewis William, Llanfachreth, un o'r rhai penaf o'r ysgolfeistriaid, ei oroesi ef chwech neu wyth mlynedd. Ar y 5ed o Hydref, 1848, cynhaliwyd cyfarfod tra dyddorol yn Nghorwen, dan yr enw Jiwbili yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd Humphrey Edwards yn bresenol yn y cyfarfod hwn, yn hen wr wedi pasio ei bedwar ugain oed. Ymhlith gweithrediadau cynulliad boreu y cyfarfod, ceir y sylw canlynol:— "Galwodd y cadeirydd ar Mr. Humphrey Edwards, Llantysilio, yr hwn a fu yn cadw ysgol y Madam Bevan (?), dan arolygiaeth y Parch. T. Charles, o'r Bala, a'r hwn sydd yn awr yn hen ddisgybl, wedi cael coron penllwydni, i roddi ychydig o hanes am ansawdd y gymydogaeth mewn diffyg deall, a moes, cyn i'r Ysgol Sabbothol gael ei sefydlu. Yr hynafgwr hybarch a wnaeth hyny mewn modd cryno, gan ddatgan ei lawenydd wrth weled y fath gynulleidfa o'i flaen yn gysylltiedig â'r Ysgol Sabbothol." Anerchodd y cynulliad yn yr hwyr drachefn, gan ddarlunio yr olwg oedd ar y wlad cyn dechreuad yr Ysgol Sul, a rhoddodd hysbysrwydd am yr amser y dechreuwyd pregethu gan y Methodistiaid yn y cyffiniau. Aeth y dyrfa rhwng y cyfarfodydd yn orymdaith fawr trwy dref Corwen, ac yn ngherbyd cyntaf yr orymdaith eisteddai y ddau hen batriarch Humphrey Edwards, yr ysgolfeistr, a