Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd," ebe un oedd yn aelod o eglwys Bryncrug yn ei amser, "yn arw am fyned yn erbyn pechod, a chadw disgyblaeth i fyny, a byddai yn hollol ddidderbyn-wyneb wrth ddisgyblu. Dywedai am saint y Beibl, wedi iddynt syrthio i ryw fai a chael eu ceryddu, y byddent ar eu gwyliadwriaeth i ochel y pechod hwnw byth wed'yn." Meddai yr un gwr, "Holi yr ysgol yn bur ddwfn y byddai; rhoddai orchymyn pendant i bawb gau eu llyfrau, a dywedai, os byddent am eu defnyddio, 'mai yr hwyaf ei wynt am dani hi.'" Efe oedd Ysgrifenydd Cyfarfod Ysgolion y Dosbarth yr oedd yn byw ynddo o'r cychwyn cyntaf, a pharhaodd yn ei swydd hyd nes iddo fethu gan henaint. Byddai Lewis William, Llanfachreth, yn ei alw, "ein parchus a'n hanrhydeddus ysgrifenydd." Ymwelai ag Ysgolion Sabbothol y cylchoedd i hyrwyddo eu sefydliad a'u dygiad ymlaen, ac i ddysgu yr ysgolheigion sut i ddarllen yn gywir, trwy gadw at yr atalnodau, a rhoddi y pwysleisiad yn briodol wrth ddarllen -ar yr hyn bethau y rhoddai efe bwys mawr. Un o drigolion hynaf Corris a ddywedai rhyw wyth mlynedd yn ol ei fod yn ei gofio yn ymweled â'r Ysgol Sul yno, ac iddo ar y diwedd alw holl ddynion yr ysgol ynghyd yn un cylch mawr, er mwyn eu profi yn gyhoeddus mewn darllen; a phan y byddai un yn methu, rhoddai gyfle i'r lleill ei gywiro, ac elai y rhai fyddent. yn methu i lawr yn y rhestr, a'r rhai fyddent yn cywiro i fyny, a'r goreu am ddarllen, o angenrheidrwydd, a safai ar ben y rhestr yn y diwedd.

Ystyrid ef yn dduwinydd pur alluog, ac edrychid arno gan ei gydoeswyr fel awdurdod ar bynciau crefydd. Gwnaeth holiadau manwl ar bynciau y Cyffes Ffydd, a chyhoeddwyd. hwy yn y Drysorfa o fis i fis; ac ar anogaeth y Gymdeithasfa y gwnaeth hyn. Efe oedd un o'r ysgrifenwyr mynychaf i'r cyfnodolion yn ei oes. Mewn hen gyfrolau o Oleuad Cymru a'r hen Drysorfa ceir ysgrifau yn aml mewn rhyddiaeth a barddon-