fechan sydd megis heb fronau iddi, sef Ysgol y Dyffryngwyn (Maethlon), a'i chynorthwyo fel cylch i ddanfon yr athraw yno am ryw faint o amser a farnoch yn addas. Nid oes yno yn bresenol yr un ysgol wythnosol, na neb ar y Sabbothau, ond a gaffont ar haelioni eraill. Mi a fum yno y Sabboth diweddaf, ac yr oeddwn yn gorfod tosturio wrth eu cri a'u tlodi yn ngwyneb eu parodrwydd a'u haddfedrwydd i dderbyn addysg. Un o ddibenion penaf sefydliad yr ysgol ydoedd cynorthwyo manau gweiniaid."
Yr oedd John Jones, Penyparc, yn un o'r ychydig bersonau a fu yn trefnu ac yn rhoddi y cychwyniad cyntaf i'r Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol, sydd wedi bod mewn arferiad a bri trwy holl siroedd Cymru. Yn ei ardal ef, sef Bryncrug, y cynhaliwyd y Cyfarfod Ysgolion cyntaf oll, a hyny yn ngwanwyn y flwyddyn 1809. Ac y mae yn dra thebyg mai yn ei dŷ ef ei hun, yn Penyparc, y gwnaethpwyd y trefniadau cyntaf o berthynas iddynt. I'r Parch. Owen Jones, y Gelli, yr hwn oedd yn preswylio y flwyddyn uchod yn Nhowyn, y priodolir sefydliad y Cyfarfodydd Ysgolion. Bywgraffydd y gwr enwog hwnw, y Parch. John Hughes, Pontrobert, a rydd y dystiolaeth bendant a ganlyn:—"Yn yr ysbaid y bu yn byw yn Nhowyn y rhoddodd ef y cychwyniad cyntaf ar y Cyfarfodydd Chwech-wythnosol a Dau-fisol yn achos yr Ysgolion Sabbothol. Er i'r cyfryw gyfarfodydd fyned i lawr am flynyddoedd yn yr ardaloedd hyny, wedi ei symudiad ef o Dowyn, eto yn fuan wedi iddo ddyfod i fyw i Sir Drefaldwyn, trwy gydgordiad a chydweithrediad amryw o'i frodyr, sefydlwyd y cyfryw gyfarfodydd, ac y maent yn parhau hyd heddyw (1830), nid yn unig yn Swydd Drefaldwyn, ond trwy Gymru yn gyffredinol ymhlith y Methodistiaid." Un o'r rhai oedd yn llygad—dystion o'r Cyfarfod Ysgolion cyntaf hwn a ddywed, tra yr holwyddorai y Parch. Owen Jones oddiar Ddisgyniad a Dyrchafiad yr Arglwydd Iesu,—"Yr