brif waith trwy ei oes. Byddai ychydig nifer yn yr ysgolion. yn cael eu hyfforddi mewn gramadeg a rhifyddiaeth. A chyn diwedd y tymor y bu yn ysgolfeistr, byddai ganddo yn rhai o'r ysgolion ychydig nifer dewisedig i'w haddysgu mewn Saesneg, a derbyniai dâl uwch dros addysg y cyfryw. Cadwai restr o'r plant a berthynent i'r ysgol, eu henwau, eu hoedran, a'u graddau mewn dysg, mewn mân lyfrau neu ar ddalenau unigol, ac y mae llawer o'r dalenau hyn i'w gweled yma ac acw, ymysg ei bapyrau ysgrifenedig. Oddiwrth y papyrau hyn, gwelir fod 77 o blant gydag ef yn yr ysgol yn Bryncrug, yn 1820; 30 yn Llanerchgoediog. yn 1818; 50 yn y Bwlch, yn 1812; 60 yn Llwyngwril, yn 1812; 92 yn Towyn, yn 1818, -10 o honynt yn dysgu ysgrifenu; 7 yn darllen yn eu Beiblau; 26 yn eu Testamentau; 66 yn yr A. B. C, sillebu, a darllen yn y llyfr corn; dim un wedi myned mor bell ag i ddysgu. rhifyddiaeth; 49 yn yr Ysgol Rad y diwrnod y dechreuodd yn y Bontddu, Mawrth 7, 1815; 61 yn Buarthyrê, yn 1816; 103 yn Nolgellau, yn 1817,-65 o'r cyfryw heb gyraedd ddim. pellach na diwedd y llythyrenau, 26 yn dysgu ysgrifenu, a 7 yn dysgu rhifyddiaeth. Bu yn Nolgellau drachefn yn 1822 ac yn 1824. Y mae rhestr faith o'r plant oedd gydag ef yn yr ysgol y blynyddau hyn ar gael, ac yn eu plith ceir enw y diweddar Barchedig Roger Edwards, y Wyddgrug. Ac efe fyddai yn cymeryd gofal yr ysgol ar fore Llun, i aros yr ysgolfeistr adref o'i gyhoeddiad.
Crefyddoldeb oedd addurn penaf Lewis William. Yr oedd fel Job, yn wr "perffaith ac uniawn," o'r dydd yr argyhoeddwyd ef, a bu felly bob dydd hyd ddiwedd ei oes. Cariai ei grefydd gydag ef wrth gyflawni holl orchwylion bywyd. Hyn, ynghyd a'i fedr i ddenu y plant a'u rhieni, a'i ffyddlondeb a'i frwdfrydedd diball, a barai ei fod mor boblogaidd a llwyddianus. Ystyrid ei ddyfodiad ef i ardal bron yn gyfystyr a dyfodiad diwygiad crefyddol. Ymrysonai yr ardaloedd am ei