Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blaen, yr edrychai Mr. Charles am dano mewn dynion i fod yn ysgolfeistriaid ydoedd eu bod yn ddynion crefyddol. Yr oedd yr addysg a gyfrenid yn yr ysgolion bron yn gwbl yn addysg grefyddol. Un o'r rheolau perthynol i'r swydd ydoedd, y disgwylid i'r athrawon, pan yn ymweled â theuluoedd yn yr ardaloedd lle y cedwid yr ysgolion, nid yn unig ymddiddan am bethau crefyddol, ond darllen a gweddio gyda'r teuluoedd, fel y byddai iddynt adael argraff er daioni yn yr holl gylchoedd lle yr elent. Yr oeddynt hefyd i gynorthwyo mewn sefydlu a chario ymlaen yr Ysgol Sabbothol ymhob ardal lle y byddai ysgol ddyddiol ynddi. Yn ychwanegol at hyn oll byddent yn cael mantais ragorol i siarad yn gyhoeddus, ac i roddi ymarferiad i'r dawn oedd ynddynt. Nid oedd yn rhyfedd, gan hyny, i lawer o'r ysgolfeistriaid gyfodi yn bregethwyr.

Pan oedd Cymdeithas Genhadol Llundain yn chwilio am genhadon i fyned allan i Ynysoedd Mor y De, yn ystod blynyddoedd olaf y ganrif ddiweddaf, at Mr. Charles yr anfonai y Cyfarwyddwyr am genhadon o Gymru, a chydag ef yr ymohebent. Mewn llythyr ato yn 1799, fel y nodwyd eisoes, dywed Mr. Hardcastle, trysorydd y Gymdeithas, "Eich ymdrechiadau gael cenhadon addas fydd y gwasanaeth mwyaf gwerthfawr a ellir wneyd i'r achos. Ac yn ol fy marn i, y mae ysgolfeistriaid yn debygol o fod ymysg y rhai mwyaf defnyddiol fel cenhadon at bobl anfoesedig." Rhan arbenig o waith cenhadon mewn gwledydd anwaraidd, fel yr ydym yn darllen, ydyw sefydlu ysgolion i ddysgu y bobl i ddarllen a deall. Yr oedd Cymru, yn nyddiau Mr. Charles, i fesur mawr, yn wlad baganaidd. A rhan fawr o'r gwaith i efengyleiddio y wlad oedd dysgu y bobl i ddarllen a deall yr Ysgrythyrau, ac wedi hyny eu rhybuddio a'u perswadio i dderbyn yr efengyl, trwy gredu yn yr Hwn a anfonodd Duw i'r byd i achub y byd. A'r rhai a gafodd y fraint o wneuthur y cyntaf oedd y rhai cymhwysaf i wneuthur