Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y cododd cynifer o gynghorwyr mewn amser mor fyr, a than anfanteision mor fawrion. Nid oedd ond tua chwe' blynedd er pan ddechreuasai Harries a Rowlands ddyfod i sylw cyhoeddus; ac eto, wele ddeugain o gynghorwyr wedi codi at eu gwaith! Mae hyn yn fwy syn pan ystyriom leied o foddion gwybodaeth oedd yn y wlad; leied o Feiblau oeddynt yn y tir; a lleied y nifer fedrent ddarllen. Ymddengys i mi yn beth tebygol fod Ysgolion Cylchynol Griffith Jones wedi gwasanaethu i ddwyn hyn oddiamgylch, megys yn ddifwriad a diarwybod. Ymofynid am wyr i gadw yr ysgolion hyny a fyddent o air da, ac yn meddu gradd o wybodaeth eu hunain, a gradd o gymhwysder i gyfranu gwybodaeth i eraill. Arferent holi yr ysgolheigion bob dydd yn egwyddorion ac ymarferiadau crefydd; a thrwy hyn cyrhaeddent fesur mwy neu lai o rwyddineb a medrusrwydd i gyfarch cynulleidfa ar bynciau crefyddol" (Cyf. I., tu dal. 235).

Fel hyn yr oedd yr Arglwydd yn creu y naill beth ar gyfer y llall, a digaregid y ffordd trwy yr amrywiol amgylchiadau hyny i ddwyn y wlad o dan ddylanwad yr efengyl. Olwynion Rhagluniaeth fawr y Nef yn distaw droi, yr Hollwybodol yn ordeinio ei was o Landdowror i anfon dynion trwy y wlad i ddysgu yr anwybodus; a phan y daeth y diwygwyr i gyhoeddi yr efengyl, ac i blanu eglwysi, y dynion hyny, wedi eu cymhwyso yn ddiarwybod iddynt eu hunain, i gynorthwyo i gario y gwaith yn ei flaen.

Cyffelyb ydoedd yr amgylchiadau yn Ngogledd Cymru yn amser Mr. Charles. Cam digon naturiol a gymerid gan ysgolfeistriaid yr ysgolion dyddiol, trwy symud o fod yn ddysgawdwyr syml yr ieuainc a'r anwybodus, i'r sefyllfa uwch, i rybuddio a pherswadio pechaduriaid yn fwy cyhoeddus. Ac adnabyddid hwy bellach yn fwy cyffredinol, nid wrth yr enwau cynghorwyr, ond llefarwyr a phregethwyr. Heblaw eu bod wedi cael ymarferiad rhagorol trwy holwyddori a siarad yn