flwyddyn! Dywedir fod rhai wedi addaw y Sabboth cyntaf ar ol y Pasc, y Sulgwyn, neu y Nadolig am flynyddoedd, os nad am eu hoes. Ni ryfeddaf nad y peth cyntaf a wna y brodyr blaenbell hyn, pan yn deffro o lwch y bedd, a fydd ceisio adgofio ymha le yr oeddynt wedi addaw bod y Sabboth cyntaf ar ol hyny!"
Yr unig gof sydd gan yr ysgrifenydd am Daniel Evans yn gwneuthur dim gwaith yn y Cyfarfod Misol, ydyw ei weled yn llywyddu yn Nghyfarfod Misol Llanelltyd, y tro cyntaf iddo. fod yn y lle hwnw mewn cyfarfod o'r fath. Ar ol myned i mewn i'r capel, eisteddai yr hen bererin, fel un o'r aelodau eraill, mewn eisteddle yn ochr y capel. Wedi myned trwy y gwasanaeth dechreuol, trwy ddarllen a gweddio, cynygiodd rhyw frawd, a chefnogwyd gan un arall, fod i Daniel Evans. lywyddu. Aeth yntau yn mlaen yn union, yn arafaidd i'r sêt fawr, a'r peth cyntaf a ddywedodd wedi cyraedd yno, gyda'i ben gwyn crynedig, a'i aceniad addfwyn arafaidd, ydoedd, "Yr ydych wedi fy ngosod i yn y lle hwn, nid am fod dim cymhwysder ynof i'r lle, ond o herwydd fod fy mhen i yn wyn."
Nesaodd dyddiau Daniel Evans i farw, o herwydd llesgedd a gwendid, bu dros rai blynyddau heb bregethu. Yr oedd yn naturiol yn ofnus, a chan ei fod yn rhoddi mwy o le nag a ddylasai i'w ofnau, dywedai wrth ei wraig un diwrnod, "Mae arnaf ofn fy nghrefydd, Margaret fach, ac yr wyf yn ofni mail yn uffern y byddaf wedi yr oll." Trodd ei briod ato a dywedodd mewn ton chwyrn, geryddol, "Sut na byddai arnoch. chwi gywilydd, Daniel Evans? Wedi crefydda ar hyd eich oes, ac yn y diwedd yn ofni eich crefydd! hen weinidog fel chwi yn ofni nad oes genych yr un grefydd, ac mai i uffern yr ewch; i uffern yn wir! beth a wnaech chwi yn y fan hono? Pe baech chwi yn myn'd yno, mi'ch ciciai rhyw gythraul chwi oddiyno yn bur fuan, 'rwyn siwr o hyny!" Dywedir i'r