fynwent i gadw yr ysgol ynddi, nes i dymor ei harosiad y tro hwn yn Llanfor ddyfod i'r pen."
Y lle y symudodd iddo gyntaf o'r Bala ydoedd i Dregeiriog, o fewn wyth milldir i Groesoswallt. I gadw yr ysgol yr aeth yno. Bu yn ddiwyd gyda'r gorchwyl hwn, a chydag achos crefydd yn gyffredinol yn y cylch. Ar doriad yr ysgol elai ar deithiau i bregethu trwy Ogledd Cymru. Dioddefodd erledigaeth drom wrth bregethu yn ardaloedd paganaidd Clawdd Offa. Ond nid ydys yn cael iddo fod yn cadw ysgol yn unman tuallan i Ddwyrain Meirionydd. O fewn y cylch hwn bu yn foddion i enill llawer o eneidiau at Grist tra yn cyflawni y swydd o ysgolfeistr, fel y cafodd brawf amryw weithiau yn ddiweddarach ar ei oes. Yr oedd rhywbeth yn debyg i arian byw yn nghyfansoddiad natur Thomas Owen-cyfodai weithiau yn bur uchel, a disgynai bryd arall yn isel iawn, a chyfodai a disgynai yn aml gyda chyflymdra yr arian byw. Yr oedd yn boblogaidd iawn yn nhymor cyntaf ei fywyd, a chyrchai llawer o bobl i wrandoarno. Soniai hen bobl yn Aberdyfi, amser yn ol, am odfa rymus a gafodd pan yn pregethu rywbryd yn yr awyr agored, ar bont Rhydymeirch, yn ardal Maethlon, y tu cefn i Aberdyfi, pryd nad oedd yr un capel wedi ei adeiladu yn Maethlon nac Aberdyfi. Wrth yr enw Thomas Owen y Bala yr adnabyddid. ef y pryd hwnw. Feallai mai yn ystod yr un daith y pregethai yn y Cwrt, lle yn agos i odre Cader Idris, ardal a ádnabyddir yn awr er's chwarter canrif wrth yr enw Abergynolwyn. Yr oedd yr odfa hono i'w deimlad ei hun yn un o'r rhai tywyllaf a chaletaf; methai a chael gafael ar ddim byd, a methai ddweyd dim byd wrth ei fodd, a theimlai gywilydd mawr o hono ei hun ar ol darfod. Penderfynodd nad elai ddim i'r lle hwnw i bregethu mwyach. Ymhen blynyddau ar ol hyn. yr oedd ar daith drachefn trwy y parth hwn o'r sir, ac erbyn iddo dderbyn taflen y cyhoeddiad hwn oddiwrth y trefnwr, -