Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Tybiaf mai'r peth gorau i chwi'ch dau," ebr y Capten, "fydd mynd dros y clawdd ac ymladd y peth yma allan i'r pen. Ond, arhoswch! Ymhen rhyw fis, fe ddechreua'r gwahanol ymrysonfeydd rhwng y Cwmnïau. Dyna'r ymryson bocsio. Mi garwn i Gwmni B wneud yn dda, a byddaf yn dewis paffwyr gorau'r Cwmni ymhen tair wythnos. A ydych chwi'ch dau yn fodlon ymladd, â'r menyg arnoch, o flaen y Cwmni ar y dydd penodedig?"

Nodiais fy mhen i'r ochr gadarnhaol; a dyna ên Tomas, yr un modd, yn cyffwrdd â'i frest.

"O'r gorau, ynteu," ebr y Capten. "I'r ymarferle mor fynych ag y gellwch i'ch cyfarwyddo gan ddau ringyll gwahanol, perthynol i Gwmni B."

Dewisais fy hyfforddwr, sef y Rhingyll Sanders; ac wedi i mi fod wrthi'n ddyfal yn ymbaratoi, a phwyntiau'r ymarferle yn aros fel adnodau yn fy nghof, heb sôn am y tipyn salwch yn fy ngholuddion, dyma'r dydd mawr yn gwawrio. Yr oedd Tomas a