Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn meddwl hynny. Fodd bynnag, dechreu- ais gynddeiriogi. Chwyrnellais fy mraich dde gylch ogylch fel asgell melin wynt gan herio Tomas i ddynesu. Bu yntau'n ddigon. dwl i ddyfod ymlaen. Mi a'i deliais dan ei ên a'i godi o'r llawr a'i weld yn dyblu i fyny ac ymdaflu ymlaen ar ei ben fel y gwelais eog yn llamu'r crych yn afon Teifi.

Dyna ddiwedd arno!" meddwn wrthyf fy hun. Yr oeddwn yn edrych o'm cwmpas â gwên foddhaus ar fy wyneb, pan deimlais y llawr yn codi o'r tu ôl imi ac yn taro fy ngwegil. Yr oedd y peth yn ddirgelwch poenus i mi; o leiaf am ennyd.

Pan oeddwn yn y gongl yn cael fy nhylino a'm hanner boddi, eglurodd Sanders fod Tomas wedi manteisio ar fy ngwenu anochelgar a'm llorio cyn i mi ei weld yn dynesu. "Ond y tro hwn am dani, meddai fy nghyfarwyddwr.

"Ie'r tro hwn am dani," atebais, yn ffyrnig ofnadwy.

"Ewch i mewn ar ras y tro yma," meddai Sanders wedi i'r gloch ganu. “Bydd hynny'n ddychryn iddo."