"Cyfartal," oedd ei ateb.
"Cyfartal?" Wedi'r holl ymbaratoi yn yr ymarferle, a'r holl glatsio ar ein gilydd. yn y cylch, dyna ni'n union yn y fan lle'r oeddem cyn dechrau! Yr oedd y cyflwr yma, os rhywbeth, yn waeth na'r cyntaf.
Ymhen rhyw dridiau ar ôl hynny, cefais orchymyn i symud fy nhaclau i lety newydd. —annedd-dy prydferth a gardd o'i flaen dan gob y gamlas a ddirwyn am un cwr i'r dref. Cefais groeso cynnes gan wraig y tŷ. Eglurodd y cawn ystafell i mi fy hun ar y llofft-lle i eistedd a chysgu. Neidiodd fy nghalon i'm gwddf gyda'r geiriau nesaf o'i genau:
"Gobeithio y byddwch mor gysurus yma â Mr. Tomas. Dyn neis iawn yw ef, a'r plant yma—yr hogyn a Beti fach-yn hoff iawn ohono."
Ni allai mai Tomas, fy ngelyn i, oedd hwn! Yr oedd peth fel hyn yn annichon-disgyn i'r un llety ag ef ar fy symudiad cyntaf, a channoedd o filwyr yn aros yn y dref! Ond wedi i mi ofyn sut un ydoedd, ac i'r wraig