Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gellir edliw hefyd nad sylwedd crefydd oedd iddi, eithr teimladrwydd crefyddol, a chymaint o wahaniaeth rhwng y ddau ag sydd rhwng yr ewyn a'r graig.

Ond am Jack yr oeddwn yn sôn. Os creadur cymysgryw ydoedd, yr oedd ei fwngreliaeth fonheddig yn waradwydd ar bendefigaeth anrasol cŵn y plas. Sant ei wehelyth oedd ef. Yn y capel y mynnai fod ar y Sul, a chŵn eraill yn ofera ar hyd y mynyddoedd, a'u cyfarth digywilydd yn sŵn rhyfygus iawn mewn bro a ystyriai chwiban yn halogi'r Sabath.

Fel cenau bach boliog, ychydig dros ddeufis oed, y cofiaf amdano gyntaf. Ymddangosai'n rhy drwm i'w goesau; a'i duedd oedd mynd ar ei ben i bob dodrefnyn fel petai holl gynnwys y tŷ ar ei ffordd. Gan ei fod mor simsan ar ei draed, mi a'i codwn i'r whilber (berfa) gyda'r ystenau bob tro y dôi gyda mi i gyrchu dwfr o'r ffynnon yng ngwaelod y weirglodd; a chyn hir ei hoffter oedd ei gludo'n ôl a blaen ar y daith feunyddiol honno.