Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyd y dydd heddiw, yn hynafgwr penllwyd bellach, yn ei fwthyn ar lannau arfordir creigiog Penfro.

Mynnwn innau hefyd orffwys yn y diwedd dan gysgodion hen gernydd Pencaer; ac o gael fy newis, yng nghesail Garn Gowil, yng nghanol y grug a'r eithin, y carwn gysgu fy nghwsg olaf, ag un o feini digabol y fro-hen fro'r derwydd a'r marchog- yn sefyll uwch fy mhen.

Yno y llamodd Jack a minnau yn gyfoedion diofid cyn dyfod cwmwl trallod; yno yr agorwyd i mi byrth fy mreuddwydion cyntaf; ac o orwedd eilwaith gerllaw fy hen ffrind, cawn yno dangnefedd llwyr, a dweud y lleiaf:

Ni'm brath na phig eiddigedd
Na min fy mai yn fy medd.