Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwadu ei grym hi! Mi welais ddigon o'r meddalwch hirwalltog hwnnw, hyd yn oed yn y Coleg, i beri imi erfyn droeon am benfoelni rhyddieithol weddill fy oes. Digiais hefyd wrth Gylch yr Orsedd wedi gweld bod modd i beth felly fynd iddo.

Na thwyller neb gan wep a fo'n hongian yn llaes gan sobrwydd digyfnewid nos a dydd. Gellir gadael pob gŵr tragwyddol- athrist o'r tu allan i gylch pendefigaeth Celfyddyd. I'r bendefigaeth bendefigaeth honno y perthyn yr awenydd; a dyfnder ei ddwyster ef un awr yw uchder ei ddigrifwch awr arall. Nodau'r un galon yw L'allégro ac Il Penseroso.

Wedi dweud hyn, mentraf dybio hefyd mai'r Falen yw mam yr awen. O leiaf, y mae barddoniaeth pob oes yn ddyledus iawn iddi. Wedi i ddyn ryfeddu, aeth i athronyddu. Wedi iddo dristâu, aeth i farddoni; a pho ddwysaf y galon, melysaf y beroriaeth. Dyna hanes pob perchen anadl y bo miwsig yn reddf iddo.

Onid yr eos, ganiedydd y nos, yw seraff cethlyddion y maes? Cofier hefyd mai gŵr