Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth reswm, y disgyn yr amwyll hwnnw. Addefant hwythau mai o wallgofrwydd yr ymddygant; eithr mynnu hefyd, fel Elfyn,— yn ei awdl i'r Awen,—mai "gwallgofrwydd dwyfol" ydyw.

Addefaf innau mai gwallgofrwydd fuasai trefnu meddyginiaeth ar gyfer clefyd sy'n gymaint hoffter i'r neb a'i dwg.

Af ymhellach. Gwallgofrwydd mwy fuasai erlid o'r wlad y pruddglwyf ysbrydoledig a roddes fod i Il Penseroso, heb sôn am gerddi melysaf awen y Cymro—ffrwyth y dwyster breuddwydiol hwnnw a elwir yn chwithdod atgofus" gan awdur cyfrol fach dreiddgar odiaeth ar "Elfennau Barddoniaeth."

Bod yn brudd tan ganu? Wel, braint yr anfarwolion yw honno.