Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ohono. Wedi'r cwbl, y mae i air ei arwyddocâd darluniadol a'i effaith arbennig ei hun ar y synhwyrau.

Mae'n wir y pery'r rhosyn i ddyhidlo'i aroglau pêr gan nad pa enw a roddir arno. Eithr a fydd hyfrydwch i enw arall arno oni alwo'r enw hwnnw lun rhosyn i'r meddwl? Gorchwyl hawdd i benboethyn addolgar fyddai rhedeg ar hyd yr heol tan weiddi:

Mwca! Mwca! Hardd yw Mwca,

a’i fryd ar riain, neu berl, neu flodeuyn, neu ryw wrthrych arall a anwylid ganddo. Ond ef yn unig a fyddai yn y goleuni mewn bro lle ni chlybuwyd y gair "Mwca" erioed o'r blaen. Dolen gymdeithasol yw gair; a lle bo'i ystyr yn dywyll, yn amwys, neu ynteu'n amlochrog, y mae'n bosibl iddo achosi cryn benbleth yng ngwersyll y bobl. Lle dwg gair arliw anrhydedd mewn un cwmwd, fe ddichon iddo beri tramgwydd mewn cwmwd arall.

Yn China, er enghraifft, dibynna ystyr gair yn fynych ar yr ynganiad a roddir iddo