Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi i'r Deheuwr losgi ei stoc i'r ddaear a throi ymaith i gasglu cnau.

Wel, y mae rhywbeth yn hynny hefyd. Eithr, a'r dyfodol yn guddiedig oddi wrthyf, maddeuer imi am dystio mai heddiw sydd yn cyfrif yn fy ngolwg i. Rhaid dweud, er hynny, fod craig o ddyn yn well na rhyw berth o greadur y gellir ei roi ar dân mewn ennyd awr heb ado dim ar ôl namyn lludw oer y geill gwynt ei wasgar fel y mynno.

Cyn belled ag y gwn i, yr hen englynwr gwych Gwydderig yw'r unig fardd o'r De a gysylltodd ddiddanwch myglys â'r gair "Cetyn." Ofnaf hefyd mai gorthrwm y Gynghanedd, yn hytrach na gormes serch, a'i llywodraethai ar y pryd. Cysuro brawd trallodus y mae:

Dwg atat safn dy Getyn;—gad y byd
Gyda'i boen am dipyn;
'E ddaw rhyw lwydd ar ôl hyn,
Arfoga, cymer fygyn!

Ond nid yw yntau'n caniatáu i neb haeru nad safn cariadferch sydd i'r anwylyd yn y Deheubarth. Mae'n wir, er hynny, nad yw