Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enwog yr enw hwnnw? Onid gwir ystyr y gair oedd "aml lwch "? Ffwlbri noeth, ebr fy nghyfaill, wedi munud o saib, a'i ben o'r golwg mewn cwmwl o fwg, oedd cymharu'r Cetyn i gariadferch. Nid wrth draed yr un ferch y plygai meibion dynion yn rhwymyn tangnefedd, eithr wrth draed yr un eilun. Priodol y rhoed yr enw "Pibell tangnefedd " i'r gwrthrych a gymodai'r Americanwr a'r Indiad Coch, nid am fod y gwrthrych hwnnw yn atal anghydfod, ond am ei fod yn dileu'r ffin genedlaethol rhyngddynt, a pheri eu bod mwyach yn un frawdoliaeth gytûn.

Ymhell cyn i'r Gogleddwr galluog hwn orffen ei ddadl, yr oeddwn wedi syrthio ar ei wddf tan gydnabod grymuster ei resymeg a'i fyglys, ac ymbil am "lond fy nghetyn " (ie, Fy Nghetyn) o faco Amlwch. Sylweddolais o'r newydd nad ni'r arogldarthwyr sy'n gyfrifol am y dynged dafodieithol a bair inni gyfarch ein heulun wrth enwau gwahanol. Ein cysur yw y medrwn oll gladdu ein gwahaniaethau pan fo