Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Cystudd Mawr. Gwaethaf gorthrwm yr anghenion materol yw atal y rhyddid gogoneddus hwn, taflu cysgod Ý Blaidd ar ein drysau, a pheri inni feddwl am fywyd fel carchardy nad yw'n caniatáu cipolwg ar y Tir Dymunol—

Lle mae'r awel fyth yn dyner,
Lle mae'r wybren fyth yn glir.

Byd heb ffenestr yw byd felly. Canys ei swyddogaeth bennaf hi—o leiaf lle bo alltud hiraethus—yw awgrymu bod i ddyn ffiniau'r etifeddiaeth nas diddymir gan cnawd—rhyw Jerusalem Nefol o'r tu allan i'r babell glai y lletya'r enaid ynddi megis o'i anfodd. Pwy a droes i Old Curiosity Shop Dickens nad yw'n cofio'r geiriau hyn? —

Outward things and inward thoughts teem with assurances of immortality.

Ar eich taith heibio i swyddfeydd y ddinas, da fydd i chwi godi eich golygon at y ffenestri, os ydych am ddarllen stori'r amseroedd. Cyflwr y ffenestri, yn anad dim, a ddengys i chwi'r gwahaniaeth rhwng yr Hen oruchwyliaeth a'r Newydd. Y mae'r