Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dim ond yr ysfa honno. Y tri y cyfeiriaf atynt yw'r Cybydd, y Sant, a'r Bardd.

Dengys hanes fel y medrodd y tri hyn ddygymod â'u cau mewn celloedd anolau heb golli anterth eu nwyd; eithr yn hytrach ffynnu yno fel yr ymegyr Blodyn yr Eira ynghanol gerwinder y gaeaf. Yr eglurhad. yw hyn: Y mae i bob un o'r tri ffenestr heblaw ffenestr ystafell; ond nid gwydr mo'i deunydd. Lle tybir yn gyffredin eu bod yn goddef amddifadrwydd mawr, fe welant, drwy'r ffenestr gyfrin honno, olud nad yw'n amlwg i'r sawl a edrycho ar allanolion eu bywyd. Hynny sy'n peri eu bod yn methu â chydymddwyn â'r tosturi a wastreffir arnynt mor fynych. Os yw'r Cybydd, er enghraifft, yn cael mwy o bleser wrth feddwl am ei gyfoeth nag wrth ei ddefnyddio, oferedd hollol yw cydymdeimlo ag ef yn ei newyn a'i anghymhendod.

Nid ar unwaith y sylweddolir nad ansawdd eu nwyd yw'r gwahaniaeth hanfodol rhwng y tri hyn. Ym mesur eu hymlyniad wrth yr hyn a garant, safant oll yn ogyfuwch. Perthyn i'r naill a'r llall ohonynt yr un