Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dywyllwch a fedr ddal ei enaid yn garcharor? Pwy a ddichon lesteirio fflam ei weledigaeth ef a chau allan brydferthwch ei freuddwyd effro? Bwrier Homer i ddaeargell, heb iddo ffenestr namyn ffenestr ei grebwyll hedegog, na phwyntil ond darn o asglodyn llosg, fe a dynn lun ei freuddwyd ar y pared diaddurn ac oer a rhoddi huodledd awen anosteg i'r meini mudion.

Pobl ddiamgyffred a alwai Milton yn ddall am iddo golli ei olygon naturiol. Ar ôl i'r nos ddi-symud ddisgyn arno y canfu ef ogoniant ei Baradwys Goll.

Pan oeddwn yn filwr, cefais gydymaith cydnaws iawn, am ysbaid, mewn brawd a ddaeth trosodd o Awstralia. Ffermwr defaid ydoedd yn ei wlad ei hun; ond buan y darganfûm fod iddo rodfeydd na ddring diadell iddynt. Yr oedd yn fardd a medd- ylegwr; a phêr oedd ein cymun derfyn dydd wedi i gorn y gwyliwr ganu'n iach i'r haul. Soniodd lawer wrthyf am ehangder ei famwlad a'i hunigeddau maith, diarffordd. Ond yr hyn a'm diddorai fwyaf oedd hanes ambell wladychwr newydd a drigai wrtho'i.