Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

plant ato, a'i dafod allan yn erbyn cornel ei enau, a'i wên fawr yn gymaint gwledd â'i losin . . .

Heddiw, a mi ymhell o'r hen fyd annwyl hwnnw, diolch am un ffenestr siop y medrais, o'i chanfod, ail-brofi melysion mebyd ac ail-fyw breuddwydion bore oes.