Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyngerdd i wrando cerddorfa'r gatrawd, na fflopiai ef i lawr wrth fy ymyl, yn llawn mor anfoddog â minnau, a llawn mor derfysglyd hefyd, o'n gyrru fel hyn i ddannedd ein gilydd, beunydd beunos, gan ryw dynghedfen anochel. Yn wir, yn y diwedd, ni synnwn ronyn pe deffrown yn y bore a'i gael wrth fy ochr yn y gwely. Yr oedd bron cyn ffyddloned imi, o'i anfodd, a'm cysgod fy hun! Peth ofnadwy yw'r hyn a eilw'r meddylegwr yn weithred anwirfoddol, sef dyn, megis wrth raid, yn gwneud rhywbeth sydd yn groes i'w ewyllys. Yr oedd y ddeddf honno'n cael amser da gyda Tomas a mi!

Fy ngobaith oedd pasio i mewn i'r Cwmni (Cwmni B) a chael fy ngosod i ymarfer ar y Sgwâr, dan gyfarwyddyd is- gapten, mewn platŵn na ddoi Tomas iddi; ac edrychwn ymlaen yn chwannog at y bore Sadwrn y cawn sefyll, yn filwr hywedd, ym mharêd y Cyrnol, a'r hen fachgen ei hun, o gefn ei geffyl, yn drilio'r bataliwn, sef y Cwmnïau oll ynghyd yn yn un fintai ddisgyblaidd.