Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

goleu a gwerthfawr odiaeth i'w traethu arno yw Personoliaeth.

Pwnc ydyw hwn sy'n peri penbleth i ddiwinyddion cyn y cof cyntaf sydd gennyf fi. Ac fe godai llawer o'r benbleth o fod y ddwy wedd i bersonoliaeth heb eu dal efo'i gilydd yn ddigon clir—yr elfen o gau arno a'r elfen o dynnu ato. Y mae rhyw gau arno yn perthyn i'r personol. Ond y mae posibl dal y wedd honno'n unig, nes bod y personol yn troi yn rhywbeth i gau allan bob cyfathrach â'r byd y perthyno'r person iddo. Golygiad arall sy'n ennill ffafr yrŵan. Golygiad Illingworth a Moberley. Golygiad yr Hegeliaid mewn gwirionedd ydyw ac ni chewch chi mohonno'n well yn un man nag yn llyfr Syr Henry Jones. Fe dalai i astudwyr diwinyddiaeth ddarllen y llyfr yn unig er mwyn yr idea hon. Cyn dyfynnu ar hyn mi ddylwn ddwyn ar gof i'r darllenydd fod Syr Henry, yma fel ym mhob man, yn gredwr mewn rhyddid fel amod angenrheidiol ac anhepgorol cymeriad. Bydd y dyfynion yn werth mwy o gymaint a hynny. "Nid ei wahanu oddiwrth y byd y mae rhyddid dyn yn ei olygu; diffrwytho ydyw gwahanu; ac y mae dyn yn rhydd, nid oddiwrth ei fyd, namyn trwyddo. Ei fyd sydd gyfrannog ag ef yn ei anturiaethau ysbrydol." (t. 145). "Fe ymddengys bod crefydd yn ei holl ffurfiau uchaf yn torri i lawr ragfuriau'r hanfodiad personol a'r cyfrifoldeb ar wahân." (t. 154). "Mi geisiaf ddangos bod crefydd, pan olygo hi fel hyn ryw gariad sy'n cryfhau'r elfen bersonol ac yn ei llanw hi ag ysbryd gwasanaeth, yn gyson â moesoldeb." (t. 158). Y mae moesoldeb, wrth gwrs, yn golygu rhyddid ac annibyniaeth; ond cyfoethogi'r annibyniaeth hwnnw y mae crefydd o'r iawn ryw—crefydd cariad—nid ei gwtogi na'i lesteirio ddim.

"Amherffaith ydyw dyn, heb ei ddatblygu, bychan i'r graddau y caeo arno ynddo'i hun, a thrin ei bersonoliaeth megis peth yn cau'r byd allan." (t. 167). Dyna damaid