Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sicrwydd ag a berthyn i amcandyb; ond fe fyn hefyd mai dyma'r sicrwydd uchaf y gellir ei gael yn y byd gwyddonol yn ogystal. 'Os amcan—dyb y mynnech chwi alw'r idea, nis gallaf wrthod hynny. Ond mi garwn ddwyn ar gof i chwi mai'r un fath yw pob syniad arall a ddyry unoliaeth i'n profiad ni." (t. 229). "Yr amcan-dyb crefyddol, fel pob amcan-dyb arall, nid yw byth wedi ei phrofi'n derfynol; ond bob amser ym mhob man yr ydys yn ei phrofi hi." (t. 103). Nid yw'r prawf byth drosodd, ond y mae yn mynd yn sicrach o hyd. Yr un funud a deddf disgyrchiant, neu ddeddf datblygiad, y mae llwyddiant daioni, gwerth profiad crefyddol, ystyr personoliaeth, a phwysigrwydd gwirionedd, yn bynciau na fyddys byth wedi gorffen deud y cwbl sydd i'w ddywedyd o'u plaid; ond y mae eu sicrwydd yn mynd yn fwy o hyd. Ac nid yw Syr Henry o gwbl yn ddibris o werth yr elfen weithgar, weithredol. Nid milwr heb fod yn Ffrainc sy a hawl ganddo i siarad gyda dim awdurdod ar bethau mawr bywyd a duwioldeb. Rhai a wypo oddiwrth boethter y brwydro a fedr siarad i bwrpas. "Yn ddiau," ebai Syr Henry, "nid rhyw farchog yn ei barlwr a heriodd y galluoedd, a gweiddi, Pwy a'n gwahana ni oddiwrth gariad Crist?'" (t. 92).

Wrth derfynu, llongyfarchwn yn bur galonnog y sawl a ddug y gwaith ardderchog yma drwy'r wasg, gan dybied yn lled sicr na chafodd yr awdur wneuthur mo'r cwbl o hynny beth bynnag. Ond y mae hyn hefyd wedi ei wneuthur gan rywun mewn modd hollol deilwng o ragoriaeth a chyfoeth y llyfr. Hyd y gwelais i ychydig iawn o wallau iaith a ddiangodd heb eu cywiro. Dacw un ar d. 176. "This is the problem which we must now ask." Examine neu solve, neu rywbeth felly oedd ym meddwl yr awdur yn ddiau. Y mae brawddeg ar d. 322 y tybiai dyn wrth y cysylltiadau fod not ar ol ynddi. "Now these two aspects seem to Mr. Bradley to be not only opposites but con-