Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r Galileaid." (tud. 221). Rywsut, ni wn i ddim paham chwaith, buasai yn well gennyf ado 'r adnod yna yn ei chynefin, heb ei defnyddio at unrhyw bwrpas ond ei phwrpas ei hun. Y mae rhyw adnodau cysegredicach na'i gilydd. Ond ychydig iawn o beth fel hyn sydd yma. Od oes lle i feirniadu o gwbl, y cŵyn yw fod y dyfynion addurniadol yma'n digwydd ar yr amlaf braidd. Y mae unrhyw ddyfais at addurno yn colli ei min o'i defnyddio 'n rhy aml. Byddai dyn yn blino ar gynganeddion yr hen gyfaill Eifionydd yn ei lythyrau a'i ymddiddanion, er donioled oeddynt. Eithr y fath yw priodolder chwaethus dyfynion Morgan, nad ych byth yn blino arnynt. Mi ddywedwn i, fe allai y cyfrifir mai deud ar ry fach o ystyriaeth, fod y peth yn digwydd yn rhy aml o lawer gan Matthews ei hun, megis yn yr adroddiadau o Gasgliad Trefeca yn y "Cylchgrawn." Ond fel y dywed Mr. Morgan ei hun, wrth ddarlunio dawn ddramodol Matthews, " nid oes safon sefydlog i chwaeth, ond y dylid ystyried amser ac awyrgylch a chynulleidfa." Ni ddywedwyd erioed beth gwiriach ar hyn o bwnc. Ac yn wir y mae sylwadau Morgan ar gwestiynau o arddull a dawn yn ddeunydd llawlyfr o addysg pe cynhullid hwy ynghyd.

Ond dyna y mae pob beirniadu ar lyfr mor dda. a hwn yn rhwym o fod yn annheg fel mater o gysondeb (proportion); oblegid fe leinw mân frychau ryw chwarter neu un ran o dair o erthygl, lle na byddent, gyda'i gilydd, yn un ran o ddeg ar hugain o'r llyfr. Mân ac anaml yw'r brychau yn ymyl rhagoriaeth eithriadol y gwaith. Fe gasgl y darllenydd eisoes, wrth ryw ddyfyniad neu ddau a roddwyd yma, fod arddull Mr. Morgan yn un lliwgar, dawnus, dawn hwyliog, ond dawn nad yw byth yn feistr ar yr ysgrifennwr. Nid aberthir byth gywirdeb hanes er mwyn ergyd ddehenig. Anaml y cyferfydd yr hanesydd gofalus a'r darluniwr medrus i'r un graddau yn yr un.