Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones, y Gelli, a gychwynodd y gwrthryfel yn erbyn awdurdod Matthews ym Morgannwg; ond tystiolaeth gadarn Owen Jones bob amser fyddai: "Matthews oedd y mwyaf o honyn-nhw i gyd."

Yr oedd ynddo bethau anawdd eu cysoni. Ni chelir mo'r rheini chwaith gan Mr. Morgan. Y mae pethau felly 'n perthyn i bob dyn mawr. Fe allai y cyfrif rhyw ysfa mynd yn groes i'r lliaws am rai o honynt. Er enghraifft, pan oedd yr Hen Gorff, o ran ei bolitics, yn Doriaidd, byddai Matthews yn Radical. Pan aeth y Corff yn Rhyddfrydwr, aeth Matthews yn Dori. Tybed fod gwir yn yr ystori a glywais newydd i Matthews droi, gan ŵr cyfrifol o weinidog, fod gan Matthews arian mewn Egyptian Bonds? Bid a fynno, y peth a ddywedodd rhywun yn y cwmni ar ol ei chlywed hi oedd: "Y mae rhywbeth yn peri i'r gath lyfu'r pentan." Effeithia peth fel hyn ar farn dyn heb yn wybod iddo. Dywedai Owen Jones, y Gelli, wrthyf, yr unig dro y gwelais i ef oedd hi, "Here I am a Radical all my life, and turned against Free Trade." Debyg fod y ffarmwr yn Owen Jones wedi mynd yn drech na'r gwladwr.

Ond beth a wnawn ni'n son? Drwy ddynion naillochrog y mae'r Brenin Mawr wedi rhoi rhai o'i fendithion mwyaf i'r byd. Dywedir ei bod hi'n well arnom ar y ddaear yma, o ran goleu, am fod echel y belen ar dipyn o osgo ac nid yn hollol sgwâr i lwybr ei chylchdro hi.

Ac wedyn, fe fedrai Matthews fod yn ddi-duedd a phwyso pethau fel clorian yr apothecari. Un o'r hanesion goreu yn y llyfr yw ei hanes yn trwsio trwmbel rhyw frawd o flaenor, a aethai yn fwy na llond ei ddillad swydd. Ond mewn amgylchiadau gwahanol medrai gymryd plaid y swyddog a ddrwgdybid, neu yr aelod a gyhuddid o uchelgais swydd. Rywbryd aeth rhai brodyr o eglwys fach yn y Fro i gwyno wrth Matthews yn ei gartref, fod ganddynt hwy frawd a omeddai gyd—weithio â'r Eglwys, heb