rhodio yn y cnawd, eto nid ydym yn milwrio yn ol y cnawd; canys arfau ein milwriaeth nid ydynt gnawdol." Dyna, debygaf fi, ydyw'r pwyslais; nid yn unig nid yw'r egwyddorion a'n cymhella ni i drin yr arfau yn gnawdol, ond nid yw yr arfau eu hunain ddim yn gnawdol chwaith. Pan wnaed y ffordd haearn rhwng Ffestiniog a'r Bala acw, yr oedd ymwelydd y Llywodraeth yn hynod o ofalus yn ymlusgo drwy bob culvert ei hunan i edrych ar fod pob carreg yn ei lle, pob troedfedd o'r gwaith cystal ag yr oedd yn cymryd arno fod. Y mae Brenin Seion yn fanylach fyth. Nid yn unig rhaid i'r gwaith basio yn ei holl fanylion, ond rhaid i'r arfau basio. "Arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw,"—yn ol y Cyfieithiad Diwygiedig, "nerthol gerbron Duw." Nid ydym ni yn defnyddio'r un arf yng ngwasanaeth y Brenin y buasai arnom ofn iddo Ef ei hunan ei weled, "nerthol gerbron Duw i fwrw cestyll i'r llawr." Chewch chi ddim arfer yr un ystryw anianol hyd yn oed i ddadymchwel cestyll y gelyn; chewch chi ddim defnyddio moddion amheus hyd yn oed er mwyn yr amcan goreu. Chewch chi ddim rafflo i dalu dyled y capel. Y mae Buddugoliaeth Iesu Grist i fod yn ysbrydol o ben i ben, yn ysbrydol yn ei chynllun yn gystal ag yn ei hamcan.
Y peth cyntaf a wnaeth y diafol a'r Iesu yn yr anialwch oedd ceisio cael ganddo ameu gwirionedd ei genadwri a dwyfoldeb ei anfoniad. "Os mab Duw wyt ti," ebe fe yn y ddwy demtasiwn gyntaf fel y rhoir hwy gan Mathew; ond yn y demtasiwn olaf does dim hanes am hynny. "A chaniatau," fel pe dywedasai Satan, "dy fod di yn iawn, mai ti ydyw Mab Duw, mai tydi ydyw etifedd pob peth, mai i ti y daw'r cwbl yn y diwedd, ti wyddost y dioddef sydd rhyngot ti a sicrhau dy hawl; ti wyddost faint o dywallt gwaed dy ferthyron di raid fod cyn y byddi di yn Frenin. Dyma fargen, ac am unwaith mi safaf ati hi. Hyn oll a