onibai mai nid tân ydi o i gyd. Nid yw'r tân yn cael ei ffordd ei hunan. Mae Duw yn burwr, yn gystal a bod yn dân y purwr, "Efe a eistedd fel purwr a glanhawr arian." Ië, dynion sydd dan y driniaeth. Dyna pam y mae o mor ymarhous. Arian sydd yn y ffwrnes, ac am hynny nid coll amser ydyw i'r glanhawr eistedd yn hamddenol i edrych arno yn puro. Pan gadwyd canmlwyddiant yr Ysgol Sul yn y Bala acw, yr oedd gorymdaith fawr wedi codi allan. Yr oedd yr hynafgwr llesg i'w gael yn y dyrfa, a phob plentyn tair oed wedi codi allan i anrhydeddu'r diwrnod. Fe ddaeth yno rai cerbydau heibio pan oedd yr ysgolion yn cerdded, rhai o honynt, mae'n ddigon posibl, ar negeseuon prysur; ond yr oedd pob cerbyd yn arafu, ac aml un yn cwmpasu cyrion y dyrfa rhag niweidio'r gweiniaid oedd yn yr orymdaith. Maddeuwch y gymhariaeth. Nid cerbyd pleser na cherbyd marchnad ydyw cerbyd yr efengyl, ond cerbyd rhyfel a cherbyd buddugoliaeth. Pam ynte y mae'r Gorchfygwr dwyfol yn symud mor araf? A ydyw cerbydau ei iachawdwriaeth Ef wedi peidio a blino yn eu hymdaith? meddech chi. A ydi'r ugain mil wedi peidio a sefyll? Na, fy nghyfeillion, cwmpasu ac arafu y maent—aros i bechaduriaid syrthio i'r rhengoedd. Pe byddai i gerbydau iachawdwriaeth Duw gyflymu llawer, fe fyddai yma ddigon dan draed mae arna i ofn, ac nid o'i fodd y blina ac y cystuddia efe blant dynion, i fathru holl garcharorion y ddaear dan ei draed." Troed y fyddin fawr o'i llwybr os oes berygl iddi dorri corsen ysig ar y ffordd. Arafed angel, pa mor brysur bynnag y byddo ei neges, os oes berygl i wynt ei adenydd ddiffodd llin yn mygu. "Corsen ysig nis tyr." Os torri, torred; thorra i moni hi. Os ail asio, asied; mi ddyhidla innau gawod i'w chynorthwyo i dyfu. "Llin yn mygu nis diffydd." Os diffodda, diffodded; ddiffodda i moni hi. Os ail gynneu, cyneued; mi chwythaf finnau awel dyner i gynhyddu'r fflam. Goruchwyliaeth arbed y gorsen
Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/154
Gwedd