Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II

Y Beibl yn Llyfr Cenedlaethau lawer.

"Felly yr holl genedlaethau o Abraham hyd Dafydd sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o Ddafydd hyd y symudiad i Babilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o'r symudiad i Babilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg."
Mathew i. 17.

SYLW ydyw hwn a wneir gan yr Efengylwr wrth gyflwyno i'w ddarllenwyr daflen llinach Gwaredwr y byd. Teitl y daflen hon, ac nid teitl yr efengyl i gyd, ydyw'r adnod gyntaf o'r bennod, Llyfr cenhedliad Iesu Grist, fab Dafydd, fab Abraham." Ystyr y gair "llyfr " yn y fan yma yw taflen neu ysgrif.

Y ffordd i gael y cenedlaethau yn bedair ar ddeg deirgwaith drosodd, yn ol yr esboniad goreu a welais i, yw cyfrif Jechonïas (Jehoiachin felly) ddwywaith—ei gyfrif yn blentyn yng ngwlad ei dadau, a'i gyfrif drachefn yn ben—teulu yng ngwlad y caethiwed. Y mae hynny yn eithaf teg, gan mai yn ei ddyddiau ef y daeth y bwlch a wneir gan yr efengylwr wrth gyfrif y cenedlaethau. "Ac wedi'r symudiad i Babilon, Jechonïas a genhedlodd Salathiel."

Beth a barodd i'r efengylwr wneud y sylw sydd yn y testun, nis gwn. Digon posibl ei fod fel Iddew defosiynol yn lled hoff o'r rhif saith; a dyma ddau saith deirgwaith drosodd. Neu, hwyrach, fod y ddefod a ddaeth yn dra chyffredin wedi hyn eisoes wedi dechreu—y ddefod o gyfrif pethau wrth eu copio —cyfrif Salm, dyweder, a nodi'r llythyren ganol ynddi, er mwyn i'r copïwr nesaf weled a ydoedd wedi ei chopïo yn gywir. Os byddai wall yn ei waith, prin