Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ol to o bregethwyr eu gwala a'u gweddill yn hwn—y datguddiad sydd yn y Beibl yn ddatguddiad mewn hanes.

DATGUDDIAD AG AMRYWIAETH YNDDO.

2. Y datguddiad sydd o Dduw yn y Beibl yn ddatguddiad â llawer iawn o amrywiaeth ynddo. Yn hwn y mae Ysbryd Duw yn siarad â gwahanol genedlaethau, ac yn siarad iddynt i gyd ei ddeall; felly nid oedd i'w ddisgwyl y llefarai efe'r un fath wrthynt i gyd. mae yma bob amrywiaeth yn ffurf y datguddiad—bob math ar gyfansoddiad; y bryddest a'r ganig, y llythyr a'r traethawd, y oregeth a'r oracl, y cronicl moel, a'r hanes celfyddwaith. Cawn wirionedd wedi ei grynhoi i gwmpas dihareb; neu cawn ef wedi ei ddistyllio trwy brofiad—dyn yn siarad â'i law ar ei fynwes, "Y tlawd hwn a lefodd, a'r Arglwydd a'i clybu."

Cawn bob amrywiaeth, hefyd, yng nghynnwys y datguddiad. Nid oes yr un faint o ddatguddiad ym mhob rhan o'r gyfrol; hanes ydyw, ac y mae holl amrywiaeth hanes yn perthyn i'r datguddiad. Yr oedd rhyw anffyddiwr ar y Cyfandir yn datgan ei siomedigaeth pan aethai i astudio'r Beibl, gan ddisgwyl ei gael yn llyfr ar grefydd. Yn lle hynny fe'i cafodd ef yn llyfr â llawer o sôn ynddo am eni plant a magu anifeiliaid. Ond beth oedd i'w ddisgwyl oddi wrth ddynion. fel y patriarchiaid! Gwyr gwaith oeddynt, ac nid gwŷr llyfrau; a naturiol oedd cael y datguddiad a gaed trwyddynt hwy yn gymysg â'r ffarmio. Rhaid i ni fodloni ar gael y profiad fel y cawsant hwythau ef. Ni ddylem ddisgwyl cael yr un faint o aur ym mhob man wrth falu'r un swm o graig; ac nid yw trysorau datguddiad wedi eu dosbarthu yn gyfartal trwy bob rhan o'r gyfrol sanctaidd. Weithiau y mae y goleuni yn danbaid—"llewych y lleuad fel llewych yr haul, a llewych yr haul yn saith mwy, megys llewych saith niwrnod." Bryd arall y mae cyfnodau meithion o