cynnydd ar y cyfan. Y mae'r naill oes yn gwella ar y llall wrth fyned ym mlaen; a chan mai fel yna y mae Duw yn gweithio yn hanes oesau at bob bwrpas cyffredin, felly y mae yn gweithio hefyd at bwrpas datguddiad. Y mae'r datguddiad hefyd yn gwella arno ei hun wrth fyned rhagddo.
Fe fyn rhai i ni feddwl fod pob rhan o'r Beibl gystal a'i gilydd pob adnod o'r un gwerth, ac o'r un werth at bob diben. Yr oedd Morris Jones, Bethesda, yn holi ysgol ryw dro, ac fe ofynnodd i'r plant pa bren oedd pren gwaharddedig Eden. Atebodd geneth fach rhag blaen mai pren afalau. "Profa dy bwnc," ebe Morris Jones; ac ebe hithau drachefn, "Dan yr afallen y'th gyfodais." Derbyniodd yr arholwr yr atebiad, er nad oedd a fynnai'r afallen honno ddim byd â Gardd Eden. Yr oedd Dr. Lewis Edwards o'r Bala, yn holi pobl yn eu maint rywbryd, a chafodd adnod yn ateb gan ŵr a fyddai yn ateb yn gyntaf un os gallai gael y blaen. Dywedodd y Doctor, "Yr wyf yn methu gweled, Robert Jones, beth sydd fynno'ch adnod chi a'r pwnc. "'Does gen i mo'r help am hynny, syr," ebai Robert Jones. Llawer sydd eto yn meddwl am y Beibl fel rhyw gamlas unffurf. Afon ydyw ef mewn gwirionedd sydd yn chwyddo ar ei thaith; y mae un darn mawr o hono yn well na dim arall sydd ynddo. Os ydych yn ameu, darllenwch. "Pe buasai y cyntaf hwnnw yn ddifeius, ni cheisiasid lle i'r ail." Fe ddywedodd yr Arglwydd Iesu am un gorchymyn, ei fod wedi ei roddi o herwydd calon—galedwch y genedl. Fel pe dywedasai, Nid dyna orchymyn goreu Duw, ond dyna y goreu a allasech chi ddal; buasai un gwell y pryd hwnnw yn rhy dda." Y mae egwyddor syml yn y ddysgeidiaeth yna o eiddo ein Harglwydd ag y mae pawb sydd wedi edrych i mewn i'r pwnc yn ein hoes ni yn ei chydnabod weithian; a phe cymhwysid hi yn ddi—ofn gan efrydwyr Gair Duw, darfyddai hanner yr anawsterau. Cewch bobl sy'n ymhyfrydu