Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fi." Canlynwch wythïen fawr y datguddiad. Mynnwch fyned yn ffrind â'ch Ceidwad; dechreuwch yn y fan yma. Chi gewch ddigon o anawsterau i'ch blino yn y Llyfr; ond wedi myned o honoch yn ffrind â'r Person sydd yn goron y Llyfr, ail beth fydd yr anawsterau. Dechreuwch gyda'r Person, ac fe ddaw'r Llyfr yn llyfr newydd i chwi o'i gwr. Chi gewch hyd i ffordd at ei gryd Ef o bob man—llwybr at y Groes o'r lleoedd annhebycaf. Mynnwch afael ar Grist. "Hyd Grist" ydyw terfyn y datguddiad—o Abraham hyd Grist. Ni ddeallwch chwi mo hanes Abraham yn iawn heb adnabod Iesu Grist.

[Adroddiad Cynhadledd Ysgolion Sul Rhuddlan ac
Abergele, yn Llanelwy, Hydref 31, 1907.]