Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Cyn creu cylchoedd bydoedd ban
Ion a eisteddai'i hunan,
Heb eisiau doniau dynawl
I fwyn gyhoeddi ei fawl.
Na chyngan un archangel,
Na diliau mwyn odlau mêl,
Na threiddgraff serafi na sant I gynnal
Ei ogoniant—"

pe derbyniem y rhain heb altro dim arnynt—a go ychydig o athronwyr yr oes hon a fuasai'n barod i'w derbyn hwy—hyd yn oed felly, am a wyddom ni, fe fyddai gwahaniaeth i Dduw rhwng meddwl a meddwl wedi ei droi yn weithred. Ni a wyddom fod peth wedi ei gyflawni yn wahanol gan ddyn i beth nad yw eto ond bwriad. Y mae'r syched am gael prawf arno'i hun mewn gwaith yn perthyn i anian y crefftwr, y dyfeisiwr, y meddyg, y cerflunydd. Nid yw'r fedr oreu ddim yr un peth nes ei phrofi. Ond atolwg, onid amberffeithrwydd y dyn a bair hynny? Nage ddim, oblegid dau beth. Yn un peth, po uchaf y gelfyddyd mwyaf yn y byd fydd awydd y dyn ei hun am gael prawf ymarferol arni. Ni bydd y dyfeisydd, dyweder dyfeisydd llongau awyr, neu ddyfeisydd y teligraff diwifrau, ddim yn ddiddig, er bod pob cyfrif wedi ei weithio allan yn berffaith ar bapur, heb fod pob helaethiad newydd ar y gelfyddyd wedi ei droi yn ffact. A dyna beth arall, po oreu y bo'r dyn parotaf oll a fydd ef i ymostwng i'r prawf ymarferol ar fuddioldeb ei ddyfeisiau. Math go salw ar ddyn sy'n fodlon ar gerdded yr ardaloedd i hwylio cwmni a gwerthu cyfrannau cyn gwybod a oes obaith gweithio'r ddyfais allan mewn ymarferiad. Gallem ddisgwyl i'r hwn sydd berffeithgwbl o wybodaeth fod yn barod i ymostwng i'r unrhyw brawf. Gallai y dywedir mai adwaith cymdeithas ar feddwl y dyn sy'n peri peth fel hyn ym mysg dynion. Y mae pob medr dynol yn apelio at ryw fyd lle bo'r gwaith yn debig o gael ei