Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/194

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ion yn rhan hanfodol o'i waith fel Gwaredwr. Cynnyg y mae fynd i'r treial yn eu lle hwy, mechnïo drostynt yn yr ystyr a eglurwyd yma.

Crynhodeb.

Dyma ynteu rai o'r pethau a welir yng Nghroes ein Harglwydd Iesu Grist. Duw yng Nghrist wedi cael prawf newydd arno'i hun, wedi dyfod yn gyfrannog hyd yr eithaf o brofiadau dynion, ac wedi mechnïo dros ddynion a mynd yn gyfrifol drostynt. O dywed rhywun nad yw peth felly ddim yn foesol, yr un peth fyddai hynny a gwadu nad oes dim moesoldeb yn yr unig ffordd y gwyddis am dani i godi mocsoldeb o lefel is i lefel uwch—y cyfiawn yn ei roddi ei hunan dros yr anghyfiawn. Mi adewais o angenrheidrwydd aml i agwedd ar y pwnc heb ei chyffwrdd, weithiau am fy mod yn gorfod cyfyngu arnaf fy hun, ond weithiau hefyd am fy mod yn myned bob dydd yn fwy argyhoeddedig, nad yw am i gwestiwn yr ysgrifennir penodau hirion arno fawr amgen na geirddadl. Ai dyn ai Duw a gymodir yn aberth Crist? Ai cosb pechod a ddioddefodd yr Iesu, ynteu dim ond ei ganlyniadau? Ai fel ffact, ynteu fel athrawiaeth y dylid pregethu'r Iawn? Er na arferwn ni mo bob un o'r hen dermau Efengylaidd yn yr un ystyr ag yr arferid hwy gan y tadau, eto y mae ystyr iddynt, a'r ystyr honno'n aml, nid yn llai dwfn a chyrhaeddfawr nag ystyr y tadau, ond yn fwy.

[Yr Efrydydd, Mawrth a Mehefin, 1922.