Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/196

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dragwyddol ryddhad." "Unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun." "Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio trwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith." Ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio."[1]

Prin y mae eisiau dwyn ar gof i'r darllenydd fod yr un weithred, yr un offrwm, yn cynnwys mwy na marw ar y pren, fel digwyddiad noeth. Yr oedd i'r digwyddiad ei gysylltiadau. Fe gynhwysai'r offrwm y bywyd a offrymwyd; ac fe gynhwysai hefyd, nid yn unig roi'r bywyd hwnnw i fyny ar y Groes, ond ei gymryd drachefn fore'r trydydd dydd, a'i gyflwyno drwy'r eiriolaeth yn y cysegr fry. Yr oedd cyflwyno'r gwaed yn y cysegr yn rhan o'r offrwm mor wirioneddol a lladd yr aberth. Ond y groes oedd canolbwnc offrwm Crist; ac er bod yr Apostolion, fel y cawn ni weled eto, aml i waith yn cysylltu'n cadwedigaeth ni â'r atgyfodiad, y groes, y rhan amlaf, yw'r arwyddlun cryno ganddynt am holl waith y prynedigaeth.

Nid ymdry'r Ysgrifennydd i egluro sut yr oedd yn wiw achub dynion trwy ddioddefaint un arall. Yr unig eglurhad sy ganddo ef ar hynny ydyw "trwy yr hwn ewyllys." Y mae offrymiad corff Iesu Grist unwaith wedi'n sancteiddio ni, am mai felly yr oedd Duw yn dewis iddi fod. Prin yn wir yr oedd gwaith y naill berson yn dioddef dros un arall yn gymaint o anhawster i'r Iddew ag ydyw i ni. Iddo ef yr oedd euogrwydd a chyfiawnder yn perthyn llawn cymaint i'r cylch ag i'r dyn unigol. Ein priodoriaeth eithafol ni sydd wedi ei gwneud hi'n anawdd i ni sylweddoli'r perthynasau cudd sydd rhwng dynion a'i gilydd.

Ond tra nad yw'r Awdur yma'n aros nemawr ddim gyda'r mater yna, y mae yn ymhelaethu ar y pwnc arall, iechydwriaeth trwy un offrwm. Yr oedd hwn yn anhawster i'r Iddew. Fe droisai'r Iddew ei gefn

  1. Heb. vii. 7; ix. 11, 12; x. 10, 14.