Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid yw crefydd felly wedi colli dim o'i hamrywiaeth yng Nghrist, ond fod gweddi, a mawl, ac elusen yr Eglwys yn troi o'i gwmpas ef, a'r peth mawr a wnaeth efe i ddyfod yn ganolbwynt crefydd i'w bobl ydoedd ei offrymu ei hunan ar y groes. Ond er bod pob ymarferiad crefyddol yn troi o'i gylch ef a'i aberth, y prif enghraifft o'r peth ydyw bwrdd y cymun; ac am hwnnw yn enwedig yr oedd yr Awdur yma'n meddwl. Ac o herwydd y lle a roed ganddi i'r cymun, fe gadwodd yr Eglwys trwy'r oesoedd yr idea efengylaidd am y Groes yn fyw yn ei phrofiad a'i thystiolaeth, er nad oedd ganddi am fil o flynyddoedd ddim athrawiaeth eglur ar y pwnc. Fel y dengys Mr. William Glynne, yn ei ragarweiniad goleu a chryno i'w gyfieithiad o lyfr Anselm—llyfr bach a ddylai fod yn llaw pob Cymro a fynno efrydu'r athrawiaeth prin a chynnil ydyw credôau'r Eglwys ar y pwnc hwn. Eithr fe wnaeth yr Eglwys yn ei sacramentau, yn enwedig yn Swper yr Arglwydd, yr hyn nis gwnaeth yn ei chredôau,—cadw lle canol i'r Groes. Er bod yr athrawiaeth Ysgrythyrol dan gladd am ganrifoedd ganddi, hi ddangosodd farwolaeth yr Arglwydd, a'i chadw ger bron y byd. Hi bregethodd mewn arwyddion yr hyn nad oedd ganddi eto ond syniad lled gymysglyd ac anghyflawn yn ei gylch.

Ac os gofynnir sut yr aeth yr athrawaieth Efengylaidd o dan gladd mewn eglwysi a roent y fath le amlwg i bregethu'r Groes, sut na chafodd athrawiaeth yr Iawn ei hegluro gan y Tadau fel y cafodd athrawiaeth y Drindod neu Berson Crist, rhaid i ni ateb mai yr un peth a guddiodd yr athrawiaeth ag a'i cadwodd hi rhag mynd ar goll. Y peth a gadwodd yr athrawiaeth oedd y lle mawr a roddai'r Eglwys i Swper yr Arglwydd; a dyna hefyd a'i cuddiodd hi, oblegid ynglŷn a'r pwys mawr a roddid ar y sacrament, fe lithrwyd, dan ddylanwad Paganiaeth, i roi bri mawr ar yr offeiriadaeth hefyd; a gelyn pennaf yr ymad-