y sonia Pedr yn y fan hon, y marw a'r atgyfodi. Nid fel pethau wedi bod a darfod y mae'r pethau hyn yn ein hachub ni, ond fel pethau a'u hystyr yn bod erioed yn y Duwdod.
Yr oedd y marw ar Galfaria'n cynrychioli rhywbeth oedd yn bod erioed yn Nuw. Ac erbyn edrych, sôn am dadolaeth Duw y mae'r Apostol yn yr adnodau o'r blaen. Fe fyn rhai fod athrawiaeth y cymod yn groes i dadolaeth Duw. Na, fel rhan o dadolaeth Duw y mae Pedr yn edrych ar gyfryngdod y Mab. "Os ydych yn galw hwnnw'n Dad, sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ol gweithred pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad; gan wybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, y'ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau, eithr â gwerthfawr waed, gwaed oen difeius a difrycheulyd, gwaed Crist; yr hwn yn wir a ragordeiniwyd cyn sylfaenu'r byd, eithr a eglurwyd yn yr amseroedd diweddaf er eich mwyn chwi, y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw." Dywedai yr hen bobl fod yr Iesu wedi gofalu bod ym Methania chwe diwrnod cyn y Pasg, gan mai efe oedd oen y Pasg, a'i bod hi'n gyfraith dal yr oen bedwar diwrnod cyn yr ŵyl. Fe ofalodd yntau, meddent, fod yn y ddalfa mewn pryd. Ond gallasent ddywedyd rhagor: yr oedd yr oen yn y ddalfa er tragwyddoldeb. Fe'i rhagordeiniwyd cyn sylfaenu'r byd. Ei egluro a wnaed yn yr amseroedd diweddaf. Yr oedd yr aberth drud yn bod erioed yn Nuw. Ni roes neb well mynegiad i'r rhan yma o'r Efengyl na Horace Bushnell. Yn ei sêl dros y gwirionedd hwn, o bosibl, yr esgeulusodd ef bwyso digon ar rai agweddau eraill i'r pwnc. Y mae rhyw nwyd sanctaidd o brydyddiaeth yn ei frawddegau. Dyma un neu ddwy ohonynt: mi garaswn ddyfynnu ychwaneg. "Egwyddor ddirprwyol o ran ei natur yw cariad, yn gwneuthur y sawl a'i teimlo yn un ag eraill, nes