Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/213

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fairbairn yn rhywle, nid cyfeiliornad i gyd oedd cyfeiliornad y Patripasiaid.

Fyth i'r Tad y bo'r gogoniant,
Roi a derbyn y fath rodd."

A'r bobl a gwynant yn erbyn yr elfen o ddyhuddiant sydd yn yr athrawiaeth fel y dysgir hi'n gyffredin, nid yn erbyn dyhuddiant mewn gwirionedd y mae eu cwyn ond yn erbyn dyhuddiant oddi allan. Dywedant mai idea baganaidd yw meddwl am ddyhuddo Duw. Ië, os ei ddyhuddo gan rywun neu rywbeth, oddi allan a feddylir, ond os dyhuddo gan Dduw ei hun, nag-e yn bendifaddeu. Ni allai dim o'r tu allan ei ddyhuddo. "Nid digon Libanus i gynneu tân; nid digon ei fwystfilod chwaith yn boethoffrwm." Chwedl y Dr. Forsyth, nid gwaith rhyw drydydd oddi allan ydyw cymodi Duw â phechadur.

Eto na feddylied neb mai athrawiaeth yr argraff foesol sydd yma—Duw yng Nghrist yn dioddef er mwyn gadael argraff ar ddynion. Braidd y mae neb yn dal honno yn ei noethter erbyn hyn, er bod llawer yn dal pethau go debyg iddi; ond yr idea Ysgrythyrol yw, bod angau'r groes wedi datguddio elfen o ddioddef yng nghariad maddeuol Duw, er nad er mwyn gwneud argraff ar neb, ond am na ellid datguddio cariad ond yn y fel yna. Od oedd cariad Duw i ymddatguddio i ddynion o gwbl, i'w gwaredu o'u trueni, rhaid oedd bod dioddef yn elfen yn y datguddiad. Yr oedd dioddef yn perthyn i'r datguddiad am ei fod yn perthyn i'r peth. "Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn a myned i mewn i'w ogoniant? "[1] Y cariad a 'mostyngodd i'n gwaredu ni, rhaid oedd iddo gymryd y wedd hon. Pan geryddodd Pedr ei Athro am fod yn ei fryd ddioddef a marw, "efe a geryddodd Pedr, gan ddywedyd, dos

  1. Luc xxiv. 26,