Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/226

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Iesu Grist yn goron pob Creadigaeth yng Ngwaith y Cymod.

Hyd yma y mae'r Apostol ar yr un tir â'r rhagymadrodd i Efengyl Ioan, ac â rhai awgrymiadau eraill a welir yma ac acw yn y Testament Newydd. Trwyddo ef," meddai Ioan, "y gwnaethpwyd pob peth." "Trwyddo ef," meddai Paul, "y crewyd pob dim ar sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau, pob dim a grewyd trwyddo ef ac erddo ef." Weithian y mae yn mynd rhagddo i ddywedyd rhagor na hyn. Nid yn unig y mae creadigaeth a'i sail ar berson Mab Duw, ond hefyd yn ei waith ef fel Gwaredwr dynion y mae'r greadigaeth yn cyrraedd ei choron. "Oblegid rhyngodd bodd i'r Tad drigo o'r holl gyflawnder ynddo ef; ac wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun." Cymodi pob peth" a ddywedir, nid cymodi dynion. yn unig, ond cymodi pethau; a rhag bod dim petruster fe chwanega'r Apostol: "trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau yn y nefoedd ai pethau ar y ddaear." Pa eisiau cymod oedd ar greadigaeth? Pa ystyr oedd i gymodi pob peth â Duw, a chymodi ar sail heddwch trwy waed y groes? Nid yw'r pethau hyn ddim yn ddeiliaid maddeuant. Yr ydym yn gweld rhyw briodolder mewn cysylltu cymodi dynion â'r groes; ond atolwg, beth sydd a fynno'r groes a chymodi natur? Y mae'n wir nad oedd ar natur ddim eisiau maddeuant; oblegid ni fedrai hi ddim pechu; ond y mae rhywbeth ynddi hithau sy'n gofyn yr un amynedd Dwyfol i ymwneud â hi ag oedd yn ofynnol i faddeu i bechadur. Y mae amherffeithrwydd mewn natur. "Ni chreodd Duw," ebe'r Dr. Brown o Fedford, "ddim yn berffaith, ond pob peth i'w berffeithio." A dyna hanes y greadigaeth, dyna'r ym-