Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/240

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2. Un arall ydyw cyfiawnhad trwy ffydd. Cyfiawnhau'r neb sydd o ffydd Iesu y mae Duw, hynny yw, y neb sydd a'i ffydd yn yr Iesu. "Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn heb weithredoedd y ddeddf." Paham trwy ffydd? a phaham trwy ffydd Iesu? Y mae'n hawdd gweld bid siwr fod rhyw fath o ffydd yn angenrheidiol, 1hyw fath o dderbyn cyfiawnder Duw, rhyw fath o gyd—fynd a'r Nefoedd, rhyw ddyfod allan O du'r Arglwydd; oblegid yn niffyg gweithredoedd, beth arall a allasai gyfiawnhau? Ond paham y mae'n gofyn i'r ffydd sy'n cyfiawnhau fod yn ffydd yng Nghrist? Paham na wnaethai rhyw gred cyffredinol ym mharodrwydd Duw i drugarhau y tro. Nid oes dim braidd mwy cyffredinol y munud yma na chred ym mharodrwydd Duw i drugarhau. "Y mae Duw yn rhy dirion i'm damnio i," ebe'r dyn. Paham na wnaethai hynny'r tro, heb unrhyw gydnabyddiaeth groew mai i Grist Iesu yr ym yn ddyledus am y tiriondeb hwn? Pa alw sydd am i bechadur gydnabod, nid yn unig barodrwydd Duw, ond hefyd drefn Duw i drugarhau? Paham na adawn ni lonydd i'r miloedd sydd yn eithaf sicr o drugarowgrwydd y Brenin Mawr, ond sydd ar yr un pryd heb boeni eu meddyliau am y sut y mae Duw yn cynnyg trugaredd i ni? Yr ateb ydyw bod hynny yn ddigon cyn dyfod Crist. Os yng Nghrist y mae Duw yn dangos ei hawl i drugarhau, cyn ei ddyfod ef ni wyddai dynion ddim pa le'r oedd yr hawl yn gorwedd. O dan yr Hen Gyfamod yr oedd dynion yn cael trugaredd heb nemor o ddirnadaeth am drefn Duw i drugarhau. Ac i bobl heb glywed am Iesu Grist pwy a wâd nad yw cred noeth yng ngharedigrwydd Duw yn ddigon heddyw? oblegid ni ddywedai neb, debyg, na all Pagan gael ei achub a wnelo'r defnydd goreu a fedro o hynny o oleuni sy ganddo, ei achub trwy Grist heb glywed enw Crist. Ond i'r rhai a wypo am Grist nid yw'r gred noeth yng