A chyda llaw, ai nid dyna ran go fawr o swyn siarad cyhoeddus da, medru cadw yn yr araith ffurfiol gryn dipyn o'r rhyddid a'r amrywiaeth lliw a geir yn ymgom yr aelwyd? Medrai ddadleu fel cyfreithiwr, dweyd hynny oedd i'w ddweyd dros yr ochr wan i'r ddadl; ac er na chelai Mr. Roberts mai honno oedd yr ochr wan, byddai'n anawdd iawn i neb droi'r cyfarfod yn ei erbyn ef. Dro arall dadleuai fel seneddwr, trwy chwalu o'r ffordd bopeth a berthynai i'r llythyren, a disgynnai ar ei union ar graidd y mater. Weithiau difrifwch goddeithiol fyddai dirgelwch ei lwyddiant ; dro arall fe rôi ryw chwithdro i bethau nes tynnu'r tŷ am ben ei wrthwynebydd.
Gwnaeth amryw areithiau pur hynod ar y cwestiwn o rannu casgliad y Genhadaeth rhwng y ddwy gymdeithas, y gartrefol a'r dramor. Ar ol y gyntaf o'r rhai hyn penderfynwyd rhoi dogn deugain punt mwy nag arfer i'r Genhadaeth Gartrefol. Nid oedd ond ychydig er pan benodasid Mr. Roberts yn ysgrifennydd y Genhadaeth honno; a deugain punt oedd ei gyflog ef y pryd hwnnw. A dyna a ddywedai un sylwedydd craff wrth fynd o'r cyfarfod, "Un garw ydyw Thomas Roberts; gwneud ei gyflog mewn un cyfarfod."
Gallwn nodi un esiampl arall ynglŷn â'r un cwestiwn. Dewisir hi nid am ei bod hi yr oreu,—y mae digon o rai gwell,—ond am y gellir crybwyll hon heb wneud cam a neb arall a gymerodd ran yn y ddadl. Mater oedd rhannu'r casgl, y gallai dynion cyn galled a'u gilydd gymryd dwy ochr wahanol arno; ac yr oedd y gwŷr da a wrthwynebent Mr. Roberts y tro hwnnw yn rhai digon cryfion a llwyddiannus i allu fforddio colli brwydr weithiau. Arfer y Cyfarfod Misol yn y cyfnod hwnnw fyddai rhoddi dwy ran o dair o'r casgliad i'r Genhadaeth Dramor, ac un ran o dair i'r Gartrefol. Erbyn yr adeg yr ydys yn son am dani, daethai y casgliad yn ddigon cryf i roi mwy na'r