Anthropos, yn fam fedydd iddi,-yr orgraff a ddysgir heddyw i bob plentyn, ac na ŵyr y tô presennol o blant ddim fod yr un wedi bod ond hyhi. Yr oedd pethau eraill ar gerdded yr un pryd, at gyfoethogi a dyrchafu llenyddiaeth Gymraeg; ond trwy rai o fechgyn y Gymdeithas honno yr agorwyd ffordd i wneuthur ymchwiliadau John Rhys a llafur golygu Gwenogfryn Evans yn dreftadaeth cenedl gyfan. Llawer a fu o wawdio ar ymdrechion y llanciau di-brofiad hyn, a thipyn bach o rywbeth yn ymylu ar erlid; ond cyn pen y tair blynedd fe welid y gwawdwyr a'r erlidwyr yn efelychu castiau diniwed y bechgyn di-brofiad gosod rhyw air neu briodwedd, a gyfrifid yn ddigrif o hen neu yn ddigrif o newydd rhwng nodau dyfyn i ddechreu; ac yna, ym mhen tro neu ddau, ysgrifennu'r gair heb nodau dyfyn, a'i dderbyn yn y man yn gyflawn aelod. Wrth gwrs, yr oedd yn bur naturiol bod ar y mwyaf o helynt gyda'r pethau newydd hyn. ar y cychwyn. Ni welsoch chi beth newydd erioed na fyddai am ychydig ormod o helynt gan rywrai yn ei gylch-modur newydd gan gwmni masnach, phonograph newydd mewn teulu, offer tynnu lluniau am y pythefnos cyntaf. Ac os daw organ i gapel, odid na fydd yr organ wedi mynd yn degan gan rywrai; a'r unig feddyginiaeth i'r chwiw fydd bod y capel nesaf yn cael organ hefyd. Byddai defnyddio'r Orgraff Newydd yn ddeunydd hwyl gynt; ond nid oes hwyl yn y byd o'i defnyddio hi heddyw, am y rheswm syml fod braidd bawb yn ei defnyddio.
Am gyraeddiadau Owen Edwards fel dysgwr, nid rhaid ymhelaethu. Dywedai York-Powell, y Proffeswr Hanesiaeth ar ol hynny, mai Edwards oedd y bachgen cryfaf a welsai ef yn yr Ysgol Hanes trwy'r holl flynyddoedd y buasai yn Athro ynddi. Dyna farn gŵr o'r tu allan i Goleg Edwards ei hun. Clywais Beniadur presennol y Coleg hwnnw'n deud mai Edwards oedd yr unig ddisgybl a fu ganddo erioed, y