Gymro oedd mynd am dymor i Loegr. Dyna a wnawn innau, pe cawn i ddechreu eto," meddai. "Mi feddylith ffyliaid fwy o honoch chi; a feddylith pobl gall ddim llai." Cafodd Owen Edwards y fantais hon oddiwrth ei waith yn bwrw rhyw ddeunaw mlynedd. fel athro yn Rhydychen; ond cafodd fantais fwy. Cadwyd ef allan o bob miri enwadol ac eisteddfodol. Nid oedd yn ddigon agos atom i fagu gelynion, ar y naill law; ac nid oedd ganddo chwaith dyrfa newynog o ddilynwyr yn disgwyl ffafrau. Felly, rhwng y naill beth a'r llall, ac, yn bennaf dim, o herwydd ei anian gatholig ei hun fe'i cadwyd ef yn annibynnol ar bleidiau,a thorrodd lwybr iddo'i hun. Wrth hwylio ar gyfer yr Yrfa Gychod flynyddol rhwng y ddwy hen Athrofa, Rhydychen a Chaergrawnt, bydd y bechgyn yn y cwch, a'r athro sy'n eu hyweddu hwy at yr ymdrech ar y lan ac yn canlyn min yr afon ar ei geffyl. Felly y byddai hi gynt beth bynnag. A gwych o beth yw bod arweinydd addysg cenedl yn glir â'i mân helyntion hi, ond iddo fedru cadw yng nghyrraedd ei bywyd hi yr un pryd, a than ddylanwad ei dyheadau hi o ddydd i ddydd. Yr oedd Owen Edwards, yn ei gyfnod tyfu, yn ddigon pell i fod yn annibynnol, ac yn ddigon agos i wybod beth oedd yn mynd ym mlaen. Trist meddwl fod y fath gyfoeth o ddoniau a gwybodaeth wedi ei gloi i fyny pan ddibennodd Syr Owen ei yrfa fis Mai 1920, yn 61 oed. I'n golwg ni buasai ei gael ef am bymtheg neu ugain mlynedd yn rhagor yn gymwynas amhrisiadwy. Yr oedd ei waith ef fel tywysog ym myd addysg yn gyfryw ag y gallesid ei gyflawni heb lawer o ddiffyg ym mlynyddoedd henaint. Gall masnachwr fyw yn rhy hir er lles ei fasnach. Gall gweinidog fyw yn rhy hir er lles ei eglwys. Ond am ŵr o safle Syr Owen Edwards, gallasai ei gyngor fod o werth mawr am flynyddoedd ar ol iddo gilio o'r gwaith caletaf; ond yr oedd ei oes gymharol fer wedi gwneuthur llawer iawn at weddnewid llenyddiaeth.
Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/60
Gwedd