Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gallai y ceid ambell i wall bychan damweiniol. Yn x. 19 y mae "Na ladrata," heb yr acen grom. Ni wn i ddim pa un sy'n iawn; ond pan oeddwn i'n fachgen fe fyddai'r hen athrawon yn swnio'r gorchmynnol hwn ag acen ar y sillaf olaf yn y gair, "Na ladratâ." Ond ychydig o ddim fel yma a geir.

Y tro nesaf gobeithiaf gael cyfle i nodi nifer o gampau'r Cyfieithiad Newydd. Gwelir wrth y darllen mwyaf brysiog arno, ei fod yn waith glân, rhagorol, yn ffrwyth y ddysgeidiaeth oreu a'r wybodaeth ddiweddaraf, a'i fod mewn aml i fan yn esboniad gwych yn gystal a chyfieithiad.

II.

Y tro o'r blaen fe anturiwyd nodi rhai pethau a 'mddangosent yn frychau ar waith sy ar y cyfan yn un gwych ragorol. Heddyw yr amcan fydd galw sylw at rai o ragoriaethau'r llyfr.

Un peth pur amlwg yn nawn yr Efengylwr Marc ydyw'r elfen ddarlunio. Teitl un o lyfrau y Dr. R. F. Horton ydyw "Cartoons from St. Mark." Y mae'r Cyfieithwyr wedi gwneuthur cryn degwch â'r elfen hon. Prin yn wir y mae'r cyffyrddiad lleiaf o'r lliw a'r llewych wedi dianc yn ddisylw ganddynt. Bydd ychydig esiamplau'n ddigon; a hwy ddangosant gymaint o le sydd i wella ar y cyfieithiad cyffredin, hyd yn oed lle nad yw hwnnw yn wallus, ond yn unig yn annigonol i gario'r arlliw o ystyr sydd yn y Groeg.

"A chan syllu o amgylch ar y rhai a eisteddai'n gylch o'i gwmpas," iii. 34. Dyna bictiwr ar unwaith.

"Yr Iesu, yn canfod ynddo'i hun i'r rhinwedd oedd. ynddo fyned allan, a droes yn y dyrfa, ac meddai, Pwy gyffyrddodd a'm dillad?" v. 30. Y mae'r crychiad lleiaf o wahaniaeth wedi ei gadw'n ofalus.

"A'i daflu i'r corgwn," vii. 27. Dywedir weithiau mai tyneru'r ymadrodd y mae'r gair "cwn bach"